Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Cytundeb cyflogau Arriva Cymru – y diweddaraf

  • Tweet
Tuesday, 7 December, 2021
  • Local News

Mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi croesawu’r newyddion bod gyrwyr Arriva Cymru wedi derbyn cytundeb cyflog, a bod hynny felly’n golygu na fydd streic.  Daw’r newyddion ar ôl gwell cynnig gan Arriva, a dderbyniwyd drwy bleidlais ddoe.

Gan groesawu’r newyddion positif, dywedodd Janet:

“Ar ôl cyfarfod swyddogion o Arriva Cymru'r wythnos diwethaf i adolygu’r sefyllfa, rwy’n croesawu’r newyddion bod gyrwyr Arriva Cymru wedi derbyn y cytundeb gwell hwn yn eu pleidlais, yn dilyn ymgysylltu cadarnhaol gan y naill ochr a’r llall wrth geisio cael ateb teg, y byddai pawb yn cytuno arno.

“Gyda llawer o etholwyr yn dibynnu ar y gwasanaethau hollbwysig hyn ledled yr etholaeth i gyrraedd mannau cyflogaeth ac addysg, bydd cael gwared ar y posibilrwydd o streic yn helpu i sicrhau bod pethau yn eu lle drwy’r cyfnodau gwyntog a gaeafol.

“Ar adeg dyngedfennol i raglen y brechlynnau atgyfnerthu, a gyda mwy o bobl bellach yn gymwys i dderbyn brechiad a mwy o alw ar i breswylwyr ymweld â chanolfannau meddygol, mae darpariaeth gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus reolaidd a dibynadwy yn elfen hanfodol yn ein hamddiffyniad.

“Mae’r newyddion hyn yn sicrhau y gall y rhaglen hon barhau i fynd o nerth i nerth.” 

DIWEDD

Ffotograff: gan Ant Rozetsky ar Unsplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree