Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Cynnydd wrth ailagor ardal chwarae Pen y Dre

  • Tweet
Wednesday, 12 August, 2020
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (12 Awst), mae Janet Finch-Saunders AS Aelod Senedd Cymru Aberconwy wedi croesawu ymrwymiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i agor ardal chwarae yn Llanrwst mewn ffordd ddiogel, unwaith y bydd gwelliannau’n cael eu gwneud i’w gyflwr presennol.

Cafodd y parc ei gau yn dilyn llifogydd ar 9 Chwefror 2020, ac roedd yr arwyneb chwarae dan ddŵr yn gyfan gwbl, roedd silt a malurion wedi gwasgaru, yn ogystal â difrod i’r cyfarpar chwarae. Yn ôl swyddogion y Cyngor, roedd y peiriannau dŵr yn dal i fod yno ym mis Mawrth pan gyflwynwyd cyfyngiadau symud COVID-19.

Gan sôn am y cyhoeddiad, meddai Janet:

“Diolch i’r cydweithio gwych a welwyd yn y gymuned leol, rydw i’n croesawu’r newyddion y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n gosod matiau yn ardal chwarae Pen y Dre cyn ailagor unwaith y mae’r gwaith atgyweirio wedi’i gwblhau.

“Bydd y parc yn cael sylw hefyd gan gontractwyr a fydd yn clirio ac ailblannu’r safle. Roedd yn gwbl gywir i’r trigolion deimlo’n anhapus o weld y gordyfiant a’r malurion wedi’i gwasgaru amgylch y parc, ac felly roeddwn yn falch o hwyluso’r gwaith o gysylltu â’r Cyngor er mwyn datrys y mater.

“Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i ymchwilio i adleoli’r safle o bosibl, yn y tymor hirach, er mwyn atal difrod gan lifogydd yn y dyfodol. Ar hyn bryd mae adolygiad yn cael ei gynnal i gyfleusterau o’r fath ar hyd a lled sir Conwy.

“Mae’n hanfodol ailagor y parc chwarae mewn ffordd ddiogel, mor gyflym â phosibl, yn enwedig ar adeg o boeni mawr i’r cyhoedd. Mae nifer o weinyddiaethau llywodraethol wedi nodi pwysigrwydd ymarfer corff i ostwng y risg o COVID-19, byddai cau’r cyfleuster hwn yn rhwystr gwirioneddol ac yn atal trigolion lleol rhag ymarfer.”

DIWEDD

You may also be interested in

Our Health Service Needs Urgent Intervention

Tuesday, 24 March, 2026
Our Health Service needs urgent intervention.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree