Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Cynllun Llywodraeth Cymru yn methu

  • Tweet
Wednesday, 26 February, 2020
  • Senedd News

Mae Janet Finch-Saunders, Gweinidog yr Wrthblaid dros Ofal Cymdeithasol, wedi pwyso ar y Prif Weinidog i fynd i’r afael â methiant cynllun gwella iechyd y geg Llywodraeth Cymru, Gwên am Byth. Mae hyn yn dilyn gwaith ymchwil gan Janet Finch-Saunders sy’n dangos nad oedd gan tua 4,600 o breswylwyr cartrefi gofal sy’n cymryd rhan yn y rhaglen gynllun iechyd y geg ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ym mis Mawrth 2019.

 

Ar gyfer y flwyddyn adrodd yn dod i ben ym mis Mawrth 2019, roedd 10,228 o breswylwyr mewn 287 o gartrefi gofal yn cymryd rhan yn llawn yn y rhaglen Gwên am Byth. Roedd cynllun gofal y geg ar waith ar gyfer 55% (5,670) o’r preswylwyr hyn.

 

Ar ôl codi’r mater yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog, meddai Gweinidog yr Wrthblaid:

 

“Rwy’n falch bod y Prif Weinidog wedi cydnabod bod pethau bach iawn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau preswylwyr cartrefi gofal.

 

“Mae hyn yn cynnwys gofal deintyddol da, ac rwy’n croesawu’r ffaith fod y cynllun Gwên am Byth yn ceisio sicrhau bod staff yn derbyn hyfforddiant mewn gofal y geg, bod asesiadau risg iechyd y geg yn cael eu cwblhau, bod cynlluniau gofal unigol yn cael eu paratoi, a bod preswylwyr cartrefi gofal yn derbyn adnoddau gofal y geg priodol ar gyfer eu cynllun gofal.

 

“Gallai’r gofynion fod mor syml â sicrhau bod brwsh dannedd a phast dannedd fflworid uchel ar gael.

 

“Ar ôl ymweld â nifer o gartrefi gofal, rwyf wedi gweld pobl yn gwneud ymdrech fawr i ofalu am y preswylwyr a gwneud iddynt deimlo’n gartrefol.

 

“Fodd bynnag, rwy’n poeni mai dim ond 55% o breswylwyr yn y 287 o gartrefi sy’n cymryd rhan yng nghynllun Llywodraeth Cymru sydd â chynllun iechyd y geg llawn ar waith.

 

“Mae’n hawdd iawn i’r Prif Weinidog ddweud bod arian ychwanegol wedi’i ddarparu ar gyfer y rhaglen, a’i bod yn cael ei chyflwyno i bob cartref gofal yng Nghymru yn ystod 2020/21.

 

“Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod angen mynd i’r afael ag un elfen sy’n methu ar hyn o bryd: y ffaith nad oes cynllun iechyd y geg yn cael ei roi ar waith ar gyfer holl breswylwyr y cartrefi gofal sy’n cymryd rhan yn y cynllun eisoes”. 

 

Nodiadau:

 

Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwella Cartrefi Gofal Cymru

 

Datganiad Ysgrifenedig: Mwy o gyllid i raglen iechyd y geg Gwên am Byth

 

You may also be interested in

J

10 Roads in Aberconwy Set to Return to 30mph

Wednesday, 11 March, 2026
In the outcome of Conwy County Borough Council’s review of default 20mph speed limits, ten roads in Aberconwy were recommended to be reverted back to 30mph from 20mph. This review has followed two other reviews, one from the Welsh Government on trunk roads and the other previously from Conwy Co

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree