Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

‘Cynllun carlam sgrinio canser y coluddyn, am ddim, i ddynion a menywod rhwng 50 a 59 oed’

  • Tweet
Tuesday, 27 July, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi annog Llywodraeth Cymru i gyflymu'r broses o sgrinio am ganser y coluddyn i ddynion a menywod rhwng 50 a 59 oed, yn dilyn y datgeliad na fydd y cynllun ehangu'n raddol fesul oedran yn cael ei gwblhau tan 2024-25.

Daeth y datgeliad drwy ateb sylweddol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a ddarparwyd yn dilyn nifer o Gwestiynau Ysgrifenedig gan Mrs Finch-Saunders. Ar hyn o bryd, mae cyngor arbenigol Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UKNSC) yn argymell sgrinio'r coluddyn yn rheolaidd ar gyfer dynion a menywod rhwng 50 a 74 oed.  

Ar hyn o bryd mae Sgrinio Coluddion Cymru yn anfon pecyn sgrinio at ddynion a menywod rhwng 60 a 74 oed bob dwy flynedd, gyda Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu oedran y rhaglen yn raddol. Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Cancer Research UK, a  gynhaliodd astudiaeth ddiweddar, yn galw am ymgyrchoedd cenedlaethol i annog pobl i gael eu sgrinio.

Wrth siarad am yr angen i adolygu'r amserlen arfaethedig, dywedodd Janet: 

“O ystyried bod arolwg diweddar ledled y DU gan Brifysgol Caerdydd wedi canfod bod mwy nag 1 o bob 5 o bobl yn llai tebygol o gymryd rhan mewn rhaglen sgrinio am ganser am ddim na chyn y pandemig, rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd y cam cyntaf i sicrhau nad yw'r cyhoedd yn oedi cyn wynebu problemau'n ddiweddarach.

“Drwy adolygu'r amserlen arfaethedig ar gyfer ehangu'r rhaglen, gall Llywodraeth Cymru ddechrau wynebu'r ôl-groniad a dechrau cynnig diagnosis amserol i bobl a'r gofal personol sydd ei angen arnynt.  

“Mae caniatáu i'r rhaglen hon ehangu hyd at dair blynedd yn methu â chydnabod mai canser y coluddyn yw'r mwyaf angheuol ond un yn y DU. Mae modd ei drin a'i wella, yn enwedig pan gaiff ddiagnosis cynnar, ond byddwn yn parhau i siomi pobl os na chaiff y rhaglen hon ei chyflwyno'n gynt. 

“Yn y cyfamser, rwy'n annog unrhyw un sydd â symptomau i gysylltu â'u meddyg teulu ac i bobl fynychu eu hapwyntiadau diagnostig a thriniaeth.” 

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Amgaeaf gopi o ateb sylweddol y Gweinidog. 
  • Gallwch weld Cwestiynau Ysgrifenedig Janet drwy glicio yma  ac yma. 

Llun: Janet Finch-Saunders AS

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree