Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Cyfarfod safle yn tanlinellu potensial gwasanaethau Ysbyty Cyffredinol Llandudno

  • Tweet
Tuesday, 14 December, 2021
  • Local News

Mae’r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi cynnal cyfarfod safle gyda  Jo Whitehead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno yn sgil ei chais i adolygu'r ffordd orau o "gynnal ac adfer" y gwasanaethau sydd ar gael.

Daeth yr ymweliad yn dilyn y newyddion cadarnhaol bod Ysbyty Llandudno wedi mabwysiadu cynllun arbennig dros y gaeaf er mwyn helpu i leddfu pwysau gwelyau mewn safleoedd eraill. Daw'r datblygiad ar ôl cadwyn o ymyriadau gan Janet sydd wedi cynnwys: 

  • Arwain galwadau i ailagor yr Uned Gofal Symudol (ACU) ar ôl iddi ddarganfod na fu unrhyw gleifion yno yn ystod 2021; 
  • Ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn gofyn i'r Pwyllgor ystyried y posibilrwydd o leihau'n rhannol y problemau difrifol a achosir gan oedi wrth ryddhau cleifion yn nhri ysbyty cyffredinol y Gogledd, trwy gael polisi sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cleifion hynny sy'n feddygol iach i'w rhyddhau gael eu trosglwyddo i ysbytai fel Llandudno;
  • Ysgrifennu erthygl yn y North Wales Weekly News yr wythnos diwethaf yn tynnu sylw at y ffaith y gellid gwneud gwell defnydd o’n hysbytai llai. 

Ar ôl cyflwyno cais i ofyn am i Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno (LHAG) gyfarfod i drafod yr angen am ffordd fwy cadarnhaol ymlaen yn yr hirdymor, trefnwyd trafodaeth rithwir ar gyfer dechrau mis Ionawr 2022.

Wrth sôn am y drafodaeth gyda'r Prif Weithredwr, dywedodd Janet: 

“Ar ôl mynd i'r afael â'r mater er mwyn ategu'r gred leol nad oes hanner digon o ddefnydd yn cael ei wneud o'r cyfleusterau gofal iechyd rhagorol yn Ysbyty Llandudno, roeddwn i'n falch o'r cyfle i gyfarfod â Jo Whitehead ar y safle er mwyn pwysleisio fy nghred y gallai'r sefydliad canolog hwn helpu i leddfu'r straen ar safleoedd eraill yn y rhanbarth.

“Rwy'n gobeithio y bydd y syniad diweddar o greu ward bontio yma yn Llandudno yn rhan o duedd ehangach o wrthdroi'r arfer o ganoli gwasanaethau yn y tri ysbyty cyffredinol.

“Yn bwysicach fyth, yn Ysbyty Llandudno mae'r unig ganolfan esgyrn yn y Gogledd a does dim cynlluniau i symud neu leihau'r gwasanaeth hwn. Hoffwn weld y Bwrdd Iechyd yn adeiladu ar yr ymrwymiad hwn drwy adolygu'r rhestr o gyfrifoldebau ar gyfer yr Uned Mân Anafiadau i benderfynu a all gynnig mwy o gymorth a gofal rownd y cloc.

“Gydag Uned Mân Anafiadau Llandudno eisoes yn perfformio'n rhagorol, mae gan yr Ysbyty botensial mawr. Edrychaf ymlaen at gyfarfod Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno ym mis Ionawr er mwyn creu cynllun gweithredu cadarnhaol i sicrhau bod mwy o gleifion yn cael gofal lleol ac amserol."

Ymhlith y cyfleusterau yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno mae Uned Dwysedd Esgyrn, Uned Osteoporosis ac Uned Rhewmatoleg. Mae'r Uned Mân Anafiadau yn gallu helpu gyda phoenau ysigo (sprain); toriadau a chlwyfau crafu; sgaldio; rhywbeth yn llygad unigolyn; achosion o frathu a phigo gan bryfed; a mân anafiadau i'r pen hefyd. Fodd bynnag, dim ond o 8 y bore tan 8 yr hwyr mae’r Uned ar agor bob dydd.

DIWEDD 

Llun: gan JESHOOTS.COM ar Unsplash

 

 

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree