Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Cyfarfod bord gron rithwir yn mynd i'r afael â phrinder staff lleol

  • Tweet
Tuesday, 13 July, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS Aberconwy wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal cyfarfod digidol gyda rhanddeiliaid lletygarwch a manwerthu i adolygu pa gymorth penodol sydd ei angen er mwyn mynd i'r afael ag effaith prinder staff presennol.

Cynhelir cyfarfod rhithwir Microsoft Teams ddydd Mercher 11 Awst 2021, rhwng 10:00am a 11:30am. Bydd dau siaradwr gwadd yn ymuno â Janet yn ystod y trafodion - Glenn Evans, Cyfarwyddwr Gwesty'r Royal Oak a Gwesty Waterloo, a Lawrence Wood, Pennaeth Coleg Llandrillo. Gall busnesau sydd â diddordeb gysylltu â [email protected] i gael dolen ymuno.

Wrth siarad am ei chyfarfod, dywedodd Janet:  

“Y sectorau lletygarwch a manwerthu yw asgwrn cefn economi'r Gogledd, gan ddarparu cyfleoedd gwaith gwerth chweil a hirdymor i lawer o deuluoedd a phobl ifanc lleol. Maen nhw'n llefydd perffaith i ddysgu sgiliau bywyd hanfodol, gan gynnwys gwaith tîm, gwasanaeth cwsmeriaid a rheoli amser. 

“Mae'n hen bryd inni stopio troi'n trwynau ar y diwydiannau hyn, a thynnu sylw at y rhagolygon ar gyfer camu ymlaen mewn gyrfa a gynigir gan y sectorau hyn. Rhaid i Fae Caerdydd arwain y blaen ar hyn, gydag unrhyw gynigion cadarnhaol ar gyfer newid yn cydnabod yr anawsterau a deimlwyd hyd yn oed cyn y pandemig.

“Dyma pam rwy'n falch iawn o ddod â rhanddeiliaid lleol at ei gilydd mewn fforwm rhithwir yr haf hwn, gan roi cyfle i glywed gan rai sydd mewn sefyllfa i greu newidiadau go iawn rŵan hyn, fel Coleg Llandrillo, yn ogystal â chydnabod pa gymorth pellach sydd ei angen.

“Rwy'n annog unrhyw fusnes lleol sydd wedi'i effeithio gan brinder staff i ymuno â'r cyfarfod."

DIWEDD 

Llun: Janet Finch-Saunders AS

You may also be interested in

janet

Senior Consultant Concerns Over Delays to the Pre-Operative Assessment Raised in Senedd Cymru

Thursday, 17 September, 2026
Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Bangor Conwy Môn, has written to the Cabinet Minister for Health and Care and the Chief Executive of Betsi Cadwaladr University Health Board, calling for urgent action to address reported cancellations of operations due to delays in the Pr

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Bangor Conwy Môn

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree