Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Croesawu canllawiau newydd ar ymweld ag uned mamolaeth BIPBC yn dilyn llythyr AS Aberconwy

  • Tweet
Wednesday, 21 July, 2021
  • Local News

Ar ôl clywed nad oedd rhai mamau'n cael y cyfle i gael eu partner neu unigolyn arall o'u dewis gyda nhw yn ystod apwyntiadau uwchsain lleol, ysgrifennodd yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – at Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mae Janet wedi croesawu ateb y Gweinidog erbyn hyn, gyda chanllawiau diwygiedig yn cael eu cyflwyno gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), gan ddweud: 

“Mae apwyntiadau uwchsain yn gam eithriadol o bwysig yn y daith famolaeth, gan roi cyfle allweddol i rieni weld eu plentyn. Dyna pam yr oeddwn mor bryderus o glywed nad yw rhai mamau wedi cael y cyfle i gael eu partner neu unigolyn arall o'u dewis gyda nhw yn yr apwyntiadau hollbwysig hyn. 

“Ar ôl ysgrifennu at Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, i amlinellu'r adroddiadau lleol hyn sy'n peri pryder, ac i alw am ddiweddariad i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar ymweld ag ysbytai a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, o ganlyniad bu modd i Fyrddau Iechyd gynnal asesiadau risg pellach o bob safle mamolaeth i asesu a ellid codi rhai cyfyngiadau. 

“Rwy'n croesawu'r newyddion arwyddocaol bod canllawiau newydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'u rhoi ar waith erbyn hyn, ac, o ganol y mis hwn ymlaen, gall partneriaid enwebedig fynychu sganiau cyn belled â'u bod yn cwblhau prawf llif unffordd cyn mynd i'r ysbyty. Ar ôl cyrraedd, bydd angen sgrinio partneriaid enwebedig am symptomau hefyd.  

“Bydd ystyriaethau ymweld yn cael eu llywio gan gyfraddau trosglwyddo COVID-19 yn y gymuned, nifer y derbyniadau COVID 19 mewn ysbytai ac achosion o'r haint. Serch hynny, mae hwn yn newid pwysig a fydd yn rhoi rhywfaint o sicrwydd y mae mawr ei angen i'n rhieni newydd wrth iddynt dderbyn y wybodaeth hanfodol hon o'r sgan gyda'i gilydd.” 

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Mae copi o lythyr Janet at Eluned Morgan AS ynghlwm. 
  • Mae copi o ateb y Gweinidog ynghlwm. 
  • Mae canllawiau llawn a diweddaraf BIPBC i'w gweld drwy glicio yma. 

Ffotograff: gan freestocks ar Unsplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree