Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has spoken of her delight at visiting Queen Elizabeth Court care home in Llandudno.
Nestled amongst five acres of landscaped gardens, Queen Elizabeth Court provides residential care, nursing and residential dementia support for up to 67 residents with permanent care or short stay respite breaks.
At RMBI Care Co. they care for older Freemasons, their families and people in the wider community.
Commenting after her visit, Janet said:
“The home has recently undergone a beautiful refurbishment, which represents a major investment in our town by the Freemasons.
“It was a pleasure to see residents relax and socialise in the tranquil environment.
“With access to beautiful grounds and being a stone’s throw from the beach, it is hard to beat the location. However, the true highlight is the clear commitment staff – under the leadership of Mrs Michelle Beer – make to ensuring that residents have the best experience possible. I wish them continued success and thank them for creating a home from home”.
ENDS
Photo:
Janet Finch-Saunders MS with Mrs Michelle Beer, Home Manager.
Mae Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, wedi sôn am ei mwynhad wrth ymweld â chartref gofal Queen Elizabeth Court yng Nghraig y Don.
Wedi'i nythu mewn pum erw o erddi wedi'u tirlunio, mae Queen Elizabeth Court yn darparu gofal preswyl, nyrsio a chymorth dementia preswyl i hyd at 67 o breswylwyr sydd angen gofal parhaol neu seibiannau tymor byr.
Yn RMBI Care Co. maen nhw'n gofalu am Seiri Rhyddion hŷn, eu teuluoedd a phobl yn y gymuned ehangach.
Wrth sôn am ei hymweliad, dywedodd Janet:
“Mae'r cartref wedi'i ailwampio'n hyfryd yn ddiweddar, ac mae’n fuddsoddiad mawr yn ein tref gan y Seiri Rhyddion.
“Roedd hi'n bleser gweld trigolion yn ymlacio a chymdeithasu mewn lle tawel braf.
“Gyda mynediad i diroedd prydferth a'r ffaith ei fod dafliad carreg o'r traeth, mae'n lleoliad diguro. Fodd bynnag, y gwir uchafbwynt yw ymrwymiad clir aelodau'r staff – o dan arweiniad Mrs Michelle Beer – i sicrhau bod trigolion yn cael y profiad gorau posibl. Rwy'n dymuno llwyddiant parhaus iddyn nhw ac yn diolch iddyn nhw am greu lle gyda naws mor gartrefol".
DIWEDD
Llun:
Janet Finch-Saunders AS gyda Mrs Michelle Beer, Rheolwr y Cartref.