Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has spoken out in frustration at the fact that the Conwy First Independent Group, Welsh Labour, and Plaid Cymru coalition Cabinet are overseeing a major delay in support being provided to households living in fuel poverty.
The Energy Company Obligation (ECO) is a government energy efficiency scheme, now in its 4th iteration. ECO4 is a four-year scheme and was planned to run from 1 April 2022 to 31 March 2026.
The main objective of ECO4 is to improve the energy efficiency of housing stock occupied by low income and vulnerable households. One route that can be used to identify these households is ‘ECO4 Flexibility’ (ECO4 Flex). Under ECO4 Flex, a participating Local Authority, can refer private tenure households that it considers to be living in fuel poverty or on a low income and vulnerable to the effects of living in a cold home.
Last month, the Member highlighted to Conwy County Borough Council that the Local Authority ECO statement is no longer available, hindering constituents from receiving support.
As of 1 December 2022, the Local Authority website is still stating:
“Our energy company obligation statement of intent is no longer available”.
Commenting on the situation, Janet said:
“Three weeks ago I raised concerns with Councillor Emily Owen, Cabinet Member for Housing and Regulatory and Deputy Leader, that by the Council not having an ECO statement available, the Local Authority is hindering constituents from receiving support.
“With communities now experiencing plummeting temperatures, every effort should be made by the Independent, Welsh Labour, and Plaid Cymru Cabinet to ensure that low income and vulnerable households in Conwy can access support that improves energy efficiency.
“It has been explained to me that staff shortages in the relevant team are causing the significant backlog. To be frank, given that we have people living in cold homes, and struggling for one day to the next, we should have a Local Authority that pulls together as a team to ensure that this matter is prioritised for addressing.
“The National Institute for Health and Care Excellence has made clear that for a vulnerable person, living in a cold home increases their chance of serious illness or death. They are at higher risk of a heart attack or stroke, breathing problems, flu, depression and falls. For the well-being of Conwy I urge the Cabinet to get moving with ECO4 Flex.”
ENDS
Notes
ECO-Flex: Energy Efficiency Improvements
Helping to prevent winter deaths and illnesses associated with cold homes
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi mynegi ei rhwystredigaeth am y ffaith bod Cabinet y glymblaid rhwng Grŵp Annibynnol Conwy yn Gyntaf, Llafur Cymru, a Phlaid Cymru, yn gyfrifol am oedi hir i’r broses o ddarparu cymorth i gartrefi sy’n byw mewn tlodi tanwydd.
Mae’r Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO) yn un o gynlluniau effeithlonrwydd ynni’r Llywodraeth, sydd bellach wedi cyrraedd ei 4ydd fersiwn. Mae ECO4 yn gynllun pedair blynedd, a’r bwriad oedd cynnal y cynllun rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2026.
Prif amcan ECO4 yw gwella effeithlonrwydd ynni y stoc tai a feddiannir gan gartrefi incwm isel a’r rhai sy’n agored i niwed. Un llwybr y gellir ei ddefnyddio i nodi’r cartrefi hyn yw ‘Hyblygrwydd ECO4’. O dan Hyblygrwydd ECO4, gall Awdurdod Lleol sy’n cymryd rhan yn y cynllun atgyfeirio cartrefi deiliadaeth breifat sydd, ym marn yr Awdurdod Lleol, yn byw mewn tlodi tanwydd neu ar incwm isel ac sy’n agored i niwed oherwydd effeithiau byw mewn cartref oer.
Fis diwethaf, dywedodd yr Aelod wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy nad yw datganiad ECO'r Awdurdod Lleol ar gael bellach, sy’n rhwystro etholwyr rhag derbyn cymorth.
Ar 1 Rhagfyr 2022, roedd gwefan yr Awdurdod Lleol yn parhau i ddatgan:
“Nid yw ein datganiad o fwriad rhwymedigaeth cwmni ynni bellach ar gael”.
Wrth siarad am y sefyllfa, meddai Janet:
“Dair wythnos yn ôl fe ddywedais wrth y Cynghorydd Emily Owen, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Tai a Rheoleiddio, a Dirprwy Arweinydd y Cyngor, fy mod yn poeni bod yr Awdurdod Lleol yn rhwystro etholwyr rhag derbyn cymorth gan nad oes ganddo ddatganiad ECO.
“Mae’r tymheredd yn syrthio mewn cymunedau ar hyn o bryd, a dylai Cabinet y Cyngor, sy’n cynnwys aelodau Annibynnol ac aelodau o Lafur Cymru a Phlaid Cymru, wneud pob ymdrech i sicrhau bod cartrefi incwm isel a chartrefi agored i niwed yn Sir Conwy yn gallu derbyn cymorth sy’n gwella effeithlonrwydd ynni.
“Rwyf wedi cael esboniad mai prinder staff yn y tîm perthnasol sy’n gyfrifol am yr ôl-groniad sylweddol. A siarad yn blaen, o ystyried bod pobl yn byw mewn cartrefi oer, ac yn cael trafferth ymdopi o ddydd i ddydd, dylai’r Awdurdod Lleol fod yn cydweithio fel tîm i sicrhau bod y mater hwn yn cael blaenoriaeth.
“Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal wedi nodi’n glir bod byw mewn cartref oer yn cynyddu’r perygl y bydd unigolyn sy’n agored i niwed yn wynebu salwch difrifol neu farwolaeth. Maen nhw mewn mwy o berygl o gael trawiad ar y galon neu strôc, problemau anadlu, y ffliw, iselder a syrthio. Er budd trigolion Sir Conwy rwy’n annog y Cabinet i symud ymlaen ar frys gyda Hyblygrwydd ECO4.”
DIWEDD
Nodiadau
ECO-Flex: Gwelliannau Effeithlonrwydd Ynni
Helping to prevent winter deaths and illnesses associated with cold homes