
Conwy County Borough Council has put forward proposals to extend the Controlled Parking Zone along The Parade, between Ty’n y Ffirth Road and Nant-y-Gamar Road.
If approved, between 1st May and 30th September, motorists would be required to pay £5.50 to park for up to four hours, and £7.50 for more than four hours. From 1st October and 30th April, the charges would be £2.40 for up to two hours, £3.80 for up to four hours, and £5.40 for more than four hours.
Janet Finch-Saunders, the Member of Welsh Parliament for Aberconwy, has written to Councillor Charlie McCoubrey, the Leader of Conwy County Borough Council, to voice concerns raised by residents and small businesses about the proposals. These concerns already include the existing difficult parking conditions potentially becoming even more challenging, as well as the impacts it will have on customers trying to access small businesses in the area.
Commenting on the parking charges proposal, Janet said:
“Craig y Don is a wonderful unique area, with bespoke businesses that attract many customers. This proposal will have an negative impact on the small business in the area.
“It will place even more strain on Craig y Don businesses, that are already facing increased pressures from the rise of employer National Insurance Contributions and business rates of 56.8p, which are the highest rates in Great Britain for small and medium sized enterprises.
“Residents are also worried that expanding the Controlled Parking Zone will encourage visitors to park on nearby residential roads for free, further complicating parking for those who already struggle to find spaces near their homes.
“This is a poor proposal from Conwy County Borough Council and I urge them to take into account the impact on local businesses and listen to the voices of residents.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflwyno cynigion i ymestyn y Parth Parcio a Reolir ar hyd y Parêd, rhwng Ffordd Ty'n y Ffrith a Ffordd Nant-y-Gamar.
Pe bai'r cynnig yn cael ei gymeradwyo, rhwng 1 Mai a 30 Medi, byddai'n rhaid i yrwyr dalu £5.50 i barcio am hyd at bedair awr, a £7.50 am fwy na phedair awr. O 1 Hydref a 30 Ebrill, byddai'r tâl yn £2.40 am hyd at ddwy awr, £3.80 am hyd at bedair awr, a £5.40 am fwy na phedair awr.
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi ysgrifennu at y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, i leisio pryderon a godwyd gan drigolion a busnesau bach am y cynigion. Mae'r pryderon hyn yn cynnwys yr amodau parcio anodd presennol a allai ddod yn fwy heriol, yn ogystal â'r effeithiau y bydd yn eu cael ar gwsmeriaid sy'n ceisio cefnogi busnesau bach yn yr ardal.
Wrth sôn am y taliadau parcio dan sylw, dywedodd Janet:
"Mae Craig-y-don yn ardal unigryw wych, gyda busnesau gwahanol sy'n denu cwsmeriaid lu. Bydd y cynnig hwn yn cael effaith negyddol ar y busnesau bach yn yr ardal.
"Bydd yn rhoi hyd yn oed mwy o straen ar fusnesau Craig-y-don, sydd eisoes yn wynebu pwysau cynyddol yn sgil y cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr ac ardrethi busnes o 56.8c, sef yr ardrethi uchaf ym Mhrydain ar gyfer busnesau bach a chanolig.
"Mae trigolion hefyd yn poeni y bydd ehangu'r Parth Parcio a Reolir yn annog ymwelwyr i barcio ar ffyrdd preswyl cyfagos am ddim, gan wneud parcio’n anoddach fyth i'r rhai sydd eisoes yn cael trafferth dod o hyd i leoedd ger eu cartrefi.
"Mae hwn yn gynnig gwael gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac rwy'n eu hannog i ystyried yr effaith ar fusnesau lleol a gwrando ar leisiau trigolion."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS