Today, Natural Resources Wales published its Habitat Regulations Report. The report highlights the concerningly poor state of our river and water habitats and species. Of the nine fish species surveyed, including Atlantic salmon, whitefish, and bullhead, all were reported as being in an unfavourable condition and ranked as poor.
This trend continued in our seas, with freshwater pearl mussels and crayfish being classed as unfavourable, and water floating plantain as unfavourable and inadequate.
Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, commented:
“I have continuously called for more action to be taken to address the challenges facing our marine environment. This report highlights the need for a stronger focus on protecting our marine species and habitats.
“While the report does highlight that the agricultural sector contributes to pollution in our rivers, it is vital that we note that the vast majority of our farmers dispose of waste in a sensible and responsible way. However, we must hold factory farmers to account for any run-off into our Welsh rivers.
“An increasingly concerning form of pollution in our Welsh waters is plastic pollution. I was shocked to learn in a meeting last year that there is currently no firm method of measuring plastic pollution in our rivers. This is deeply concerning, with plastics being found in water species in a survey conducted over the River Taff.
“We must measure and address this pollution, as well as hold our water companies to account for any leaks, such as the plastic discs used in wastewater treatment that appeared on beaches in Swansea and Gower, through fines, ensuring that this money is delivered back to Wales. Along with redirecting money from the Welsh Government’s waste projects, such as the heat pumps that only work on new builds to tackling this issue.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Heddiw, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei Adroddiad Rheoliadau Cynefinoedd. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gyflwr gwael ein cynefinoedd a’n rhywogaethau afon a dŵr. O'r naw rhywogaeth o bysgod a arolygwyd, gan gynnwys eogiaid, pysgod gwyn, a phennau lletwad, adroddwyd bod pob un mewn cyflwr anffafriol.
Roedd y duedd hon yn parhau yn ein moroedd, gyda misglod perlog a chimychiaid yr afon mewn cyflwr anffafriol, a llyriad-y-dŵr arnofiol mewn cyflwr anffafriol ac annigonol.
Dywedodd Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy:
"Rydw i wedi galw'n barhaus am fwy o weithredu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein hamgylchedd morol. Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at yr angen am ffocws cryfach ar ddiogelu ein rhywogaethau a'n cynefinoedd morol.
"Er bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod y sector amaethyddol yn cyfrannu at lygredd yn ein hafonydd, mae'n hanfodol ein bod yn nodi bod y mwyafrif helaeth o'n ffermwyr yn gwaredu gwastraff mewn ffordd synhwyrol a chyfrifol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni ddwyn ffermwyr ffatri i gyfrif am unrhyw ddŵr ffo i afonydd Cymru.
"Ffurf gynyddol bryderus o lygredd yn nyfroedd Cymru yw llygredd plastig. Cefais sioc o ddysgu mewn cyfarfod y llynedd nad oes dull cadarn o fesur llygredd plastig yn ein hafonydd ar hyn o bryd. Mae hyn yn peri pryder mawr, gydag arolwg a gynhaliwyd o Afon Taf yn canfod plastigau mewn rhywogaethau dŵr.
"Mae'n rhaid i ni fesur a mynd i'r afael â'r llygredd hwn, yn ogystal â dwyn ein cwmnïau dŵr i gyfrif am unrhyw ollyngiadau, megis y disgiau plastig a ddefnyddir wrth drin dŵr gwastraff a ymddangosodd ar draethau yn Abertawe a Gŵyr, drwy ddirwyon, gan sicrhau bod yr arian hwn yn dod yn ôl i Gymru. Mae’n rhaid i ni hefyd ailgyfeirio arian o brosiectau gwastraff Llywodraeth Cymru, megis y pympiau gwres sy'n gweithio ar adeiladau newydd yn unig, er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders A