Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has spoken of her delight at the Glan Conwy Pensioners Christmas dinner which took place at the Church House, Glan Conwy on Friday 16 December 2022.
The community event was organised by local residents, including Sylvia, Eric, Dewi, and Pam. The around 70 attendees enjoyed a festive banquet, concert by Ysgol Glan Conwy, and a mammoth raffle drawn by Mrs Finch-Saunders.
Speaking after enjoying the festive celebration, Janet said:
Covid-19 stopped us from coming together. Glan Conwy, like a phoenix has emerged stronger, with a fantastic community spirit.
It was so wonderful to see the hall full of residents sharing the joys of Christmas, and enjoying the brilliant event organised by Sylvia, Eric, Dewi, and Pam.
It was my honour to be able to play a part in the occasion, and draw the numbers for the most generous raffle I have ever seen. It took almost half an hour to go through all the prizes, which is yet another example of the community’s generous heart.
However, the real stars were the children of Ysgol Glan Conwy, who bravely took to the stage and entertained us all with Christmas classics.
Congratulations and thank you to everyone involved.
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi siarad am ei hapusrwydd yng nghinio Nadolig Pensiynwyr Glan Conwy a gynhaliwyd yn Nhŷ'r Eglwys, Glan Conwy ddydd Gwener 16 Rhagfyr 2022.
Trefnwyd y digwyddiad cymunedol gan drigolion lleol, gan gynnwys Sylvia, Eric, Dewi a Pam. Cafodd tua 70 o'r gwesteion gyfle i fwynhau gwledd Nadoligaidd, cyngerdd gan Ysgol Glan Conwy, a raffl enfawr a dynnwyd gan Mrs Finch-Saunders.
Yn siarad ar ôl mwynhau’r dathliadau, dywedodd Janet:
Rhwystrodd Covid-19 ni rhag dod at ein gilydd. Mae Glan Conwy wedi dod drwyddi’n gryfach, gydag ysbryd cymunedol gwych.
Roedd hi mor hyfryd gweld y neuadd yn llawn o'r trigolion yn rhannu llawenydd y Nadolig, ac yn mwynhau'r digwyddiad gwych a drefnwyd gan Sylvia, Eric, Dewi a Pam.
Roedd hi’n anrhydedd i mi allu chwarae fy rhan yn yr achlysur, a thynnu'r rhifau ar gyfer y raffl fwyaf hael a welais erioed. Fe gymerodd hi bron i hanner awr i fynd drwy'r holl wobrau, sydd eto'n enghraifft arall o haelioni’r gymuned.
Fodd bynnag, plant Ysgol Glan Conwy oedd y sêr go iawn. Fe gamon nhw’n ddewr ar y llwyfan gan ein diddanu i gyd gyda chlasuron Nadoligaidd.
Llongyfarchiadau mawr a diolch i bawb fu'n rhan o'r digwyddiad.
DIWEDD