Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy was delighted to visit Coleg Llandrillo last Friday with her colleague and friend Tom Giffard MS, Shadown Minister for Education.
The two toured the College with Aled the new CEO of Coleg Menai and Paul Flanagan the new Principal for Coleg Llandrillo. They met numerous teachers and pupils and learned of the hard work and exciting projects the school are taking part in.
Coleg Llandrillo continues to set a benchmark for educational excellence in Wales, providing outstanding opportunities for its students and contributing greatly to the local community. The College’s dedicated staff work tirelessly to create an environment that fosters academic achievement, personal growth, and practical skills that equip students for their futures.
Commenting on the visit Janet said:
“Tom and I were thrilled to visit the College. We are especially proud of the hard work and perseverance shown by the pupils, who consistently demonstrate excellence across various disciplines. Whether it's in vocational training, academic courses, or extracurricular achievements, the students at Coleg Llandrillo embody the dedication and passion necessary to thrive in their chosen fields.
“The efforts of the faculty and staff are clearly equally commendable, as they continually go above and beyond to support learners, ensuring they are given the tools and guidance they need to succeed. Their commitment to providing a nurturing and innovative learning environment is key to the college's long-standing reputation as a leading educational institution.
“Coleg Llandrillo's success stories stand as a powerful testament to the unwavering dedication of both students and staff. We eagerly anticipate the continuation of this inspiring journey toward excellence, ensuring many more achievements in the years to come.
“My thanks to Aled and Paul for hosting us and I wish them, the teachers and pupils all the best for the future.”
Commenting on the visit, Tom Giffard MS, Shadow Minister for Education and Welsh Language said:
"It was great to meet with Paul and Aled at Coleg Llandrillo, and to hear firsthand about some of the great work the college does in the local community.
"It's more important than ever for us that people can access good quality vocational education, so that we can address key skills gaps in our workforce and to help boost our economy.
"The Welsh Labour Government's decision to cut apprenticeship places in the last budget will only serve to make that mission more difficult."
ENDS
Roedd Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn falch iawn o ymweld â Choleg Llandrillo ddydd Gwener diwethaf gyda'i chydweithiwr a'i ffrind Tom Giffard AS, Gweinidog Addysg yr Wrthblaid.
Aeth y ddau ar daith o amgylch y Coleg yng nghwmni Aled, Prif Swyddog Gweithredol newydd Coleg Menai, a Paul Flanagan Pennaeth newydd Coleg Llandrillo. Fe wnaethant gyfarfod â nifer o athrawon a disgyblion a dysgu am y gwaith caled a'r prosiectau cyffrous y mae'r ysgol yn cymryd rhan ynddyn nhw.
Mae Coleg Llandrillo yn parhau i osod y meincnod ar gyfer rhagoriaeth addysgol yng Nghymru, gan ddarparu cyfleoedd rhagorol i'w fyfyrwyr a chyfrannu’n fawr at y gymuned leol. Mae staff ymroddedig y Coleg yn gweithio'n ddiflino i greu amgylchedd sy'n meithrin cyflawniadau academaidd, twf personol a sgiliau ymarferol sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer eu dyfodol.
Wrth sôn am yr ymweliad dywedodd Janet:
"Roedd Tom a minnau yn falch iawn o gael ymweld â'r Coleg. Rydyn ni’n arbennig o falch o'r gwaith caled a'r dyfalbarhad a ddangosir gan y disgyblion, sy'n dangos rhagoriaeth yn gyson ar draws disgyblaethau amrywiol. Boed mewn hyfforddiant galwedigaethol, cyrsiau academaidd, neu gyflawniadau allgyrsiol, mae'r myfyrwyr yng Ngholeg Llandrillo yn ymgorfforiad o’r ymroddiad a'r angerdd sydd eu hangen i ffynnu yn eu meysydd dewisol.
"Mae'n amlwg bod ymdrechion y gyfadran a'r staff yn haeddu’r un clod, wrth iddyn nhw fynd yr ail filltir yn barhaus i gefnogi dysgwyr, gan sicrhau eu bod yn cael yr adnoddau a'r arweiniad angenrheidiol i lwyddo. Mae eu hymrwymiad i ddarparu amgylchedd dysgu cartrefol ac arloesol yn allweddol i enw da hirsefydlog y coleg fel sefydliad addysgol blaenllaw.
"Mae straeon llwyddiant Coleg Llandrillo yn amlygu ymroddiad diwyro myfyrwyr a staff. Rydyn ni’n rhagweld gyda balchder y bydd y daith ysbrydoledig hon yn parhau tuag at ragoriaeth, gan sicrhau llawer mwy o gyflawniadau yn y blynyddoedd i ddod.
"Diolch i Aled a Paul am ein croesawu a hoffwn ddymuno'r gorau iddyn nhw, yr athrawon a'r disgyblion ar gyfer y dyfodol."
Wrth sôn am yr ymweliad, dywedodd Tom Giffard AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yr Wrthblaid:
"Roedd hi’n wych cwrdd á Paul ac Aled yng Ngholeg Llandrillo, a chlywed am y gwaith gwych mae'r coleg yn ei wneud yn y gymuned leol o lygad y ffynnon.
"Mae'n bwysicach nag erioed bod pobl yn gallu cael mynediad at addysg alwedigaethol o ansawdd da, fel y gallwn fynd i'r afael â bylchau allweddol yn ein gweithlu gan roi hwb i'n heconomi.
"Bydd penderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru yn y gyllideb ddiwethaf i leihau’r prentisiaethau a gynigir yn sicr yn gwneud y dasg honno'n dipyn mwy o her."
DIWEDD