Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Clod i “Ganolfan Ragoriaeth” Dementia Gogledd Cymru

  • Tweet
Tuesday, 19 October, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi canmol gwaith Gwasanaethau Gofal Croesffyrdd Gogledd Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr ar ymweliad â hwb Dementia newydd y sefydliad ar gyfer Gogledd Cymru ym Mharc Menter Quinton Hazell ym Mochdre, Bae Colwyn.

Diben yr ymweliad oedd dysgu am y gwasanaethau sydd ar gael i breswylwyr ledled y Gogledd a daeth Dr James Davies AS yno gyda Janet Finch-Saunders AS. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth ymarferol i bobl sydd â dementia, ac i’w teuluoedd. Gall preswylwyr ffonio’r Ganolfan i sgwrsio gyda gweithwyr proffesiynol wedi’u hyfforddi am y gwasanaethau sydd ar gael, neu i drefnu apwyntiad ar 01492 542212.

Yn rhoi sylwadau ar ei hymweliad, dywedodd Janet:

“Mae dementia yn effeithio ar oddeutu 42,000 o bobl ledled Cymru yn ôl y GIG, sy’n golygu, ar sail ein cyfran o’r boblogaeth, bod yn rhaid i o leiaf 10,000 o breswylwyr a’u gofalwyr yn y Gogledd ymdopi ag ef.

“Yr hyn y mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn ei gynnig drwy ei chanolfan ragoriaeth - drwy grwpiau cyngor, caffis dementia a chymorth i fanteisio ar weithgareddau cymdeithasol - yw’r union fath o brosiect sydd ei angen i sicrhau nad yw pobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, a’r llu o ofalwyr di-dâl sy’n gofalu amdanynt gyda chariad, yn llithro drwy’r rhwyd.

“Er bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Cynllun Gweithredu Dementia wedi’i ddiweddaru cyn gynted ag y mae’r un presennol yn dod i ben, yn gynt yn y mis ymunais â chydweithwyr o bob rhan o’r Siambr i alw ar sefydlu Arsyllfa Data Dementia Cenedlaethol er mwyn i ni allu datblygu adnoddau diagnostig cywir yn well i sicrhau y gall pobl gael mynediad at y cymorth cywir ar ôl cael diagnosis.

“Fel y mae Cymdeithas Alzheimer’s Cymru wedi’i bwysleisio, mae Cymru mewn safle unigryw gyda mynediad at gyllid penodol ar gyfer dementia ac ymchwilwyr dawnus yn y maes. Mae’n hollbwysig ein bod yn adeiladu ar y ffaith hon er mwyn sicrhau y gall cyllid ar gyfer hybiau dementia tebyg gael ei ddarparu i roi seibiant i’n gofalwyr.”

DIWEDD

Ffoto: Janet Finch-Saunders AS gyda James Davies AC ac aelodau hyb Dementia Gogledd Cymru, Gwenno ac Alison.

You may also be interested in

Janet

Public Meeting Raised Serious Concerns

Monday, 26 January, 2026
Last Friday, Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, held a public meeting at Llandudno Town Hall.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree