After attending the Y Llew Goch B&B and Tearoom, Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy said:
It was such a privilege to attend this spectacular B&B nestled in the Conwy Valley. Run by friendly husband and wife team, Graham and Delyth Pullen.
The B&B offers four spacious ensuite bedrooms, double showers and magnificent scenic views. Of course, if you stay here, you will receive a hearty breakfast, freshly prepared using locally sourced produce where possible.
Within the grounds of the Y Llew Goch, they have a large car park for guests and a lovely tearoom open to the public from 10:30 to 16:00, Thursday to Sunday. The tearoom offers wide array of food and drink, such as a light lunch menu, afternoon tea with delicious homemade cakes, and even a selection of local craft beers and gins.
For anyone that is looking for a comfortable sleep in the heart of North Wales, Y Llew Goch maybe the place. You will feel right at home with Graham and Delyth’s hospitality, you won’t want to leave.
I want to thank Graham and Delyth for letting me visit their incredible home and business, and wish them all the best for the future.
Nadolig Llawen!
ENDS
Ar ôl ymweld â llety gwely a brecwast ac ystafell de Y Llew Goch, dywedodd Janet Finch-Saunders, yr Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy:
Roedd hi'n gymaint o fraint ymweld â'r llety gwely a brecwast bendigedig hwn yn Nyffryn Conwy, dan ofal y gŵr a gwraig cyfeillgar, Graham a Delyth Pullen.
Mae'r llety’n cynnig pedair ystafell wely ensuite fawr, cawodydd dwbl a golygfeydd godidog. Wrth gwrs, os byddwch chi'n aros yma, fe gewch chi frecwast swmpus wedi'i baratoi'n ffres gan ddefnyddio cynnyrch lleol lle bo modd.
Ar dir Y Llew Goch, mae ganddyn nhw faes parcio mawr ar gyfer gwesteion ac ystafell de hyfryd sydd ar agor i'r cyhoedd rhwng 10:30 a 16:00, o ddydd Iau i ddydd Sul. Mae'r ystafell de’n cynnig pob math o fwyd a diod, megis bwydlen ginio ysgafn, te prynhawn gyda chacennau cartref blasus, a detholiad o gwrw a jin lleol hyd yn oed.
I unrhyw un sydd am gael noson dda o gwsg ym mherfeddion y Gogledd, efallai mai'r Llew Goch yw'r lle i chi. Byddwch chi'n teimlo'n gartrefol iawn gyda lletygarwch Graham a Delyth, a fyddwch chi ddim am adael.
Hoffwn ddiolch i Graham a Delyth am y cyfle i ymweld â'u cartref a busnes anhygoel, a dymuno pob lwc iddyn nhw yn y dyfodol.
Nadolig Llawen!
DIWEDD