Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Canolfan Ddringo The Boathouse yn dathlu ei hanes wrth i boblogrwydd y gamp fynd drwy’r to ar ôl ei chynnwys yn y Gemau Olympaidd

  • Tweet
Monday, 21 June, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae dau anturiaethwr yn cynnig gofod croesawgar i’r gymuned leol a phobl ar eu gwyliau yn hen gwt cwch yr RNLI. Wrth siarad gyda Janet Finch-Saunders AS ar ymweliad diogel o ran Covid yn ddiweddar, eglurodd Andy ac Emma-Jane Sutcliffe am eu taith chwe blynedd a ddaeth i benllanw wrth agor Canolfan Ddringo The Boathouse.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Tachwedd 2018, i weddnewid gorsaf hanesyddol yn ganolfan ddringo newydd, gyda’r agoriad meddal yn digwydd bedwar mis yn ddiweddarach, ddydd Llun 25 Chwefror 2019. Bydd ymwelwyr â’r lleoliad yn sylwi sut mae’r dewis o gynllun a lliwiau’n cyd-fynd â’i hanes diddorol, gyda’r perchnogion yn dewis ailddefnyddio dodrefn a gadael rhai o’r nodweddion gwreiddiol yn eu lle.

Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Janet:

“Mae Canolfan Ddringo The Boathouse yn esiampl anhygoel ac arloesol o waith adnewyddu, gyda gwaith caled ac ymroddiad Andy ac Emma yn gwneud cryn gyfraniad at hybu’r hyn sydd gan y Gogledd i’w gynnig fel hafan antur Cymru. Mae cynnig gofod mor groesawgar a diogel i ddringwyr newydd yn dipyn o gamp, a hoffwn eu llongyfarch ar ailagor.

“Gyda dringo’n cael ei gynnwys yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf yr haf hwn pan gynhelir y gemau yn Tokyo, mae atyniad y gamp hon yn debygol iawn o gynyddu ac felly mae cael y lleoliad gwych hwn - gyda’i gymysgedd unigryw o ogofâu a neidiau - yng nghanol Llandudno yn debygol o apelio’n fawr at ymwelwyr.

“Ar ôl cynnal sgyrsiau gyda nifer o’n cwmnïau chwaraeon antur, gan gynnwys Canolfan Ddringo The Boathouse, rwy’n cydnabod bod pryderon o hyd am y cyfyngiadau sydd yn eu lle ar hyn o bryd. Byddaf yn dal ati i gyflwyno’r achos i’r awdurdodau angenrheidiol er mwyn i’r sector chwaraeon antur gael rhagor o gefnogaeth wrth adfer ac ailagor.”

Roedd y daith yn rhan o daith fusnes ddiweddaraf Janet o gwmpas Llandudno wrth iddi geisio cefnogi a dathlu doniau entrepreneuraidd lleol wrth i’r rhanbarth ddod dros bandemig Covid-19.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion: 

  • Mae Andy wedi treulio blynyddoedd lawer yn datblygu ei sgiliau a’i wybodaeth yn y sector awyr agored yn gweithio i wahanol gwmnïau ledled y DU mewn swyddi amrywiol. Mae wedi’i leoli yn y Gogledd dros yr 17 blynedd diwethaf gan weithio gyda llawer o Ganolfannau Awyr Agored, yn ogystal â gweithio’n defnyddio ei Drwydded Gweithgareddau Antur ei hun. Mae wedi treulio 8 o’r blynyddoedd hyn fel Cydlynydd Dringo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae wedi rhentu’r wal ddringo yng Nghanolfan Hamdden Cyffordd Llandudno, gan roi’r enw  newydd hynod addas JunctionWall iddi.
  • Mae Emma-Jane yn dod o gefndir cymunedol ac addysgol ac mae wedi bod mewn cymunedau ac ysgolion lleol di-rif yn hwyluso prosiectau dawnsio a chelfyddydau yn ardal Conwy ers 2002.

You may also be interested in

Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Wednesday, 28 January, 2026
Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree