Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Canmol ceidwaid tir am ofalu am ddiogelwch bwyd ar Ddiwrnod Cefnogi Ffermio Prydain

  • Tweet
Wednesday, 15 September, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Wrth gymryd rhan ym menter Cefnogi Diwrnod Ffermio Prydain yr NFU, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy a Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid - wedi annog preswylwyr i brynu cynnyrch lleol fel ffordd o “roi arian yn ein heconomi wledig” a chefnogi “ceidwaid a gwarcheidwaid y tir”.

Mae Diwrnod Cefnogi Ffermio Prydain, a gynhelir heddiw (dydd Mercher, 15 Medi), yn ddathliad blynyddol o gyfraniad ffermwyr Prydain at dyfu ein bwyd ein hunain, gan ofalu am ein cefn gwlad a’n  tirweddau sy’n cael eu ffermio, a diogelu amgylchedd naturiol cenedlaethau’r dyfodol.

I ddathlu’r achlysur, dywedodd Janet: 

Ar Ddiwrnod Cefnogi Ffermio Prydain rwy’n falch i gefnogi ffermwyr yn Aberconwy a ledled y wlad drwy annog pawb i brynu cynnyrch lleol sydd wedi’i fagu yn ôl safonau uchel dros ben, a rhoi arian yn ôl yn ein heconomi wledig.

“Ein ffermwyr yw ceidwaid a gwarcheidwaid y tir, ond yn fwy na hyn, mae ganddynt rôl gwbl hanfodol wrth fwydo a chyflogi ein cenedl a sicrhau diogelwch bwyd. 

“Gydag ymchwil wedi’i gyhoeddi diwedd y llynedd yn pwysleisio’n gwbl gywir bod allyriadau nwyon tŷ gwydr amaethyddiaeth yng Nghymru ymysg yr isaf o gymharu â systemau tebyg yn fyd-eang, mae’n hollol amlwg bod ein ffermwyr yn parhau i wneud cyfraniad enfawr at fynd i’r afael â newid hinsawdd.

“Dyna un rheswm pam rydw i wedi bod yn falch o erfyn ar Lywodraeth Cymru i roi diwedd ar unwaith ar eu Parth Perygl Nitradau Cymru gyfan; gan sicrhau nad ydym yn gweld dull cyffredinol o blannu coed ar dir amrywiol gyfoethog; a sicrhau hefyd fod ffermwyr gweithgar go iawn yn cael eu cefnogi i gynhyrchu bwyd a chyflawni’r dyhead sero-net erbyn 2040.

“Felly, heddiw a phob diwrnod arall o’r flwyddyn, gadewch i ni ddathlu a chydnabod y gwaith rhagorol a diflino y maen nhw’n ei wneud, boed law neu hindda, bod awr o’r dydd.”

DIWEDD 

Ffoto: Janet Finch-Saunders AS

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree