
Welsh Government have announced that there will be a new service from Llandudno to Liverpool starting in May 2026.
This follows a long running campaign by Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, to see new direct services going to and from Llandudno.
Commenting on her successful campaign, Janet said:
“Llandudno is one of the United Kingdom’s leading tourist destinations, seeing around 10 million visitors annually.
“People travel here from all over the world, but we do owe a particular thanks to residents of North West England.
“To help ensure that more can travel via public transport to Llandudno, it is common sense to increase the number of direct rail destinations, such as by adding Liverpool.
“This will also be of major benefit to constituents who currently have to change in Chester if they want to go shopping in the so-called capital of North Wales!
“I am delighted that my campaign has helped secure a direct connection to the regional capital”.
ENDS
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gwasanaeth newydd o Landudno i Lerpwl yn dechrau ym mis Mai 2026.
Mae hyn yn dilyn ymgyrch hirdymor gan Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, i weld gwasanaethau uniongyrchol newydd yn mynd i ac o Landudno.
Wrth sôn am ei hymgyrch lwyddiannus, dywedodd Janet:
"Mae Llandudno yn un o brif gyrchfannau twristiaeth y Deyrnas Unedig, ac mae’n denu tua 10 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.
"Mae pobl yn teithio yma o bob cwr o'r byd, ond rydyn ni’n arbennig o ddyledus i drigolion Gogledd Orllewin Lloegr.
"Er mwyn helpu i sicrhau bod mwy yn gallu teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i Landudno, mae'n gwneud synnwyr cynyddu nifer y cyrchfannau rheilffyrdd uniongyrchol, megis ychwanegu Lerpwl.
"Bydd hyn hefyd o fudd mawr i etholwyr sy'n gorfod newid yng Nghaer ar hyn o bryd os ydyn nhw eisiau mynd i siopa yn yr hyn a elwir prifddinas Gogledd Cymru!
"Rwy'n falch iawn bod fy ymgyrch wedi helpu i sicrhau cysylltiad uniongyrchol â'r brifddinas ranbarthol".
DIWEDD