After numerous approaches about the poor condition of the skatepark in Llandundo, Janet has met with Tallulah Deakin in regarding a new and improved Llandudno skatepark and the possibility of a new mud track on the site too.
The recent petition that was created by Tallula has already reached 300 people, which is a great achievement as it has only been online for one week. The numbers are increasing daily with increasing support on Facebook also.
Concerns have been raised over the skatepark’s current state from residents and users of the park stating it needs a complete revamp due to safety concerns and general wear and tear of the ramps.
Janet Finch-Saunders, Senedd Member for Aberconwy said:
“I had a constructive meeting with the lead campaigner Tallula Highfield and have pledged my 100% support for the revamp of Llandudno skatepark.
Llandudno skatepark has previously been a much used amenity for young people, I would love to see that happen again with an exciting revamp that will attract young people in the area.
With £20 million funding from the scheme, and that kind of investment coming into the town, I would love to see it used on projects like this.
I will be writing to the facilities department at Conwy County Borough Council and Llandudno Town Council to see how we might progress this matter further.”
I am really keen to ensure that this funding is used to support our local residents and businesses. I urge anybody interested in how these funds are spent to contact me at [email protected] to offer any insight on this.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Ar ôl llawer o gwynion am gyflwr gwael y parc sglefrio yn Llandudno, mae Janet wedi cwrdd â Tallulah Deakin ynglŷn â pharc sglefrio newydd a gwell yn Llandudno a'r posibilrwydd o drac mwd newydd ar y safle hefyd.
Mae'r ddeiseb ddiweddar a grëwyd gan Tallula eisoes wedi cyrraedd 300 o bobl, sy'n dipyn o gamp gan mai dim ond ers wythnos y mae wedi bod ar-lein. Mae'r niferoedd yn cynyddu bob dydd gyda chefnogaeth gynyddol ar Facebook hefyd.
Mae pryderon wedi cael eu codi am gyflwr presennol y parc sglefrio gan drigolion a defnyddwyr y parc gan nodi bod angen ei adfer yn llwyr oherwydd pryderon diogelwch a thraul cyffredinol y rampiau.
Meddai Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy:
"Cefais gyfarfod buddiol gyda'r prif ymgyrchydd Tallula Highfield ac rwyf wedi addo fy nghefnogaeth lwyr i adfer parc sglefrio Llandudno.
Mae parc sglefrio Llandudno wedi bod yn amwynder a ddefnyddir yn aml gan bobl ifanc ers cyn cof, a byddwn wrth fy modd yn gweld hynny'n digwydd eto gyda gwaith adfer cyffrous a fydd yn denu pobl ifanc yn yr ardal.
Gyda £20 miliwn o gyllid o'r cynllun, a'r math hwnnw o fuddsoddiad yn dod i'r dref, byddwn wrth fy modd yn ei weld yn cael ei ddefnyddio ar brosiectau fel hyn.
Byddaf yn ysgrifennu at yr adran gyfleusterau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Tref Llandudno i weld sut y gallwn symud ymlaen â'r mater hwn ymhellach."
Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ein trigolion a'n busnesau lleol. Rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd mae'r arian hwn
yn cael ei wario i gysylltu â mi [email protected] gan gynnig unrhyw fewnwelediad ar hyn."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS