Following the devastating news that Finnley Jones has passed away following a serious car accident along Conway Road, Llandudno, Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has reiterated her calls and those of local residents for both Conwy County Borough Council and North Wales Police to take extra measures to improve highway safety along one of the key routes into Llandudno.
Mrs Finch-Saunders and local residents have previously campaigned to improve highway safety along Conway Road, resulting in changes being made to Wormhout Roundabout and a flashing speed sign being put in place. They have also campaigned for a pedestrian crossing, speed camera, and speed limit reduction, but the authorities have not yet agreed.
Further to the two accidents that took place last week, Janet has already secured the following commitments from North Wales Police:
- The Neighbourhood Policing Team is to have a presence with handheld speed guns in the area;
- Policing activity in the area will be fed back through social media channels;
- A request will be made to include the area on the patrol plans for specialist resource.
Commenting on the safety of Conway Road, Janet said:
“My thoughts and prayers are with Finnley’s family and friends at this horrendous time.
“I am devastated that another life has been taken along this highway.
“Cooperating with local residents, I have previously worked with North Wales Police and Conwy County Borough Council regarding the numerous accidents on Conway Road, and the fear it causes local residents and pedestrians.
“Whilst some changes were secured, I am pleased that North Wales Police have now responded promptly to my request for urgent measures to be taken, and that they will have a presence with handheld speed guns in the area.
“I will continue to liaise with residents and authorities so to try and secure additional measures to improve the safety of the highway for all”.
ENDS
Yn dilyn y newyddion trychinebus fod Finnley Jones wedi marw yn dilyn damwain car ddifrifol ar Ffordd Conwy, Llandudno, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi ailadrodd ei galwadau hithau a galwadau trigolion lleol ar i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Heddlu Gogledd Cymru gymryd mesurau ychwanegol i wella diogelwch ffyrdd ar hyd un o’r prif lonydd i mewn ac allan o Landudno.
Mae Mrs Finch-Saunders a thrigolion lleol eisoes wedi ymgyrchu i wella diogelwch ar y priffyrdd ar hyd Ffordd Conwy, gan arwain at newidiadau i Gylchfan Wormhout ac arwydd cyflymder sy’n fflachio yn cael ei osod. Maen nhw hefyd wedi ymgyrchu dros groesfan i gerddwyr, camera cyflymder a lleihau terfynau cyflymder, ond dydy’r awdurdodau ddim wedi cytuno eto.
Wedi i ddwy ddamwain arall ddigwydd yr wythnos ddiwethaf, mae Janet eisoes wedi sicrhau’r ymrwymiadau canlynol gan Heddlu Gogledd Cymru:
- Mae’r Tîm Plismona Cymdogaeth yn mynd i fod yn defnyddio gynnau cyflymder llaw yn yr ardal;
- Bydd gweithgarwch plismona yn yr ardal yn cael ei hysbysu drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol;
- bydd cais yn cael ei gyflwyno i gynnwys yr ardal ar y cynlluniau patrôl adnoddau arbenigol.
Wrth sôn am ddiogelwch Ffordd Conwy, dywedodd Janet:
“Rwy’n meddwl ac yn gweddïo dros deulu a ffrindiau Finnley ar yr adeg erchyll hon.
“Mae colli bywyd arall ar hyd y darn hwn o’r briffordd wedi fy llorio’n llwyr.
“Gyda chydweithrediad trigolion lleol, rydw i wedi gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn y gorffennol i daclo’r damweiniau niferus ar Ffordd Conwy, a’r ofn y mae’n ei achosi i drigolion a cherddwyr lleol.
“Er bod rhai newidiadau wedi cael eu sicrhau, rwy’n falch bod Heddlu Gogledd Cymru bellach wedi ymateb yn brydlon i’m cais i fabwysiadu mesurau brys, ac y byddan nhw’n defnyddio gynnau cyflymder llaw yn yr ardal.
“Byddaf yn parhau i gysylltu gyda’r trigolion a’r awdurdodau er mwyn ceisio sicrhau mesurau ychwanegol i wella diogelwch ar y briffordd i bawb”.
DIWEDD