Fresh concerns have been raised about patient care at Ysbyty Glan Clwyd who recently remained in special measures following coverage on ITV Wales News, highlighting the ongoing corridor care crisis and overcrowding in the hospital’s emergency department.
The latest reports have once again brought to light distressing scenes of patients being treated in inappropriate settings, raising serious questions about patient dignity, safety and the ongoing pressures facing frontline NHS staff.
Janet Finch-Saunders MS invited the First Minister Eluned Morgan to visit Ysbyty Glan Clwyd alongside her visit to Llandudno hospital but the First Minister declined. Leader of the Welsh Conservatives, Darren Millar has also called for the First Minister to apologise to all the patients waiting for treatment in horrendous conditions and the staff who have been pushed to breaking point.
Janet Finch-Saunders, Senedd Member for Aberconwy said:
“What we have seen in the emergency departments at Ysbyty Glan Clwyd and across Wales is completely unacceptable. Patients are being treated in corridors, without dignity, and frontline staff are being pushed to breaking point.
Following the latest ITV Wales report, it is clear that the situation is not improving, in fact it is getting worse and it is simply not good enough.
I am deeply disappointed that the First Minister decided not to visit Ysbyty Glan Clwyd alongside her trip to Llandudno hospital, at a time where an obvious crisis is happening in emergency departments, leadership and accountability are needed more than ever.
We now must recognise this for what it is, a health emergency, and respond with the urgency and seriousness it deserves.”
Mae pryderon newydd wedi cael eu codi am ofal cleifion yn Ysbyty Glan Clwyd, sydd wedi aros dan fesurau arbennig yn ddiweddar yn dilyn adroddiadau ar Newyddion ITV Cymru, a oedd yn tynnu sylw at yr argyfwng gofal ar goridorau parhaus yr ysbyty a’r ffaith bod yr adran gofal brys yn orlawn o fore gwyn tan nos.
Roedd yr adroddiadau diweddaraf unwaith eto yn tynnu sylw at olygfeydd pryderus, gyda chleifion yn cael eu trin mewn lleoliadau amhriodol, gan godi cwestiynau difrifol am urddas cleifion, diogelwch a'r pwysau parhaus sy'n wynebu staff rheng flaen y GIG.
Gwahoddodd Janet Finch-Saunders AS y Prif Weinidog Eluned Morgan i ymweld ag Ysbyty Glan Clwyd pan ymwelodd ag ysbyty Llandudno, ond gwrthod wnaeth y Prif Weinidog. Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar hefyd wedi galw ar y Prif Weinidog i ymddiheuro i'r holl gleifion sy'n aros am driniaeth mewn amodau erchyll a'r staff sydd wedi cael eu gwthio i ymyl y dibyn.
Dywedodd Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy:
"Mae'r hyn rydyn ni wedi'i weld yn yr adrannau brys yn Ysbyty Glan Clwyd a ledled Cymru yn gwbl annerbyniol. Mae cleifion yn cael eu trin mewn coridorau, heb urddas, ac mae staff rheng flaen yn cael eu gwthio i ymyl y dibyn.
Yn dilyn adroddiad diweddaraf ITV Cymru, mae'n amlwg nad yw'r sefyllfa'n gwella, mewn gwirionedd mae'n gwaethygu a dydy hynny ddim yn ddigon da.
Rwy'n siomedig iawn bod y Prif Weinidog wedi penderfynu peidio ag ymweld ag Ysbyty Glan Clwyd wrth ymweld ag ysbyty Llandudno. Ar adeg o argyfwng amlwg mewn adrannau brys, mae angen arweinyddiaeth ac atebolrwydd yn fwy nag erioed.
Mae'n rhaid i ni nawr gydnabod hyn am yr hyn ydyw, argyfwng iechyd, ac ymateb gyda'r brys a'r difrifoldeb y mae'n ei haeddu."