Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Have YOUR Say on the Conwy Valley Railway Line! Dweud EICH Dweud am Rheilffordd Dyffryn Conwy?
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Calling for Mobile Dental Units in North Wales/Galw am Unedau Deintyddol Symudol yn y Gogledd

  • Tweet
Wednesday, 25 June, 2025
  • Local News
Janet

Across Aberconwy, there are constituents of all ages who do not have access to an NHS dentist. With no quick way of recruiting more dentists, introducing mobile dental units will help ensure people are seen by a qualified NHS dentist.

 

Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, who has long advocated for such an approach, has called again for the introduction of mobile dental units across the Betsi Cadwaladr University Health Board.

 

A mobile dental unit programme was co-located at Ysgol y Moelwyn secondary school in Blaenau Ffestiniog. Dental assessments were carried out for 11 and 12-year-old students at the school, and where necessary, they were provided with clinically-effective and evidence-based prevention interventions. Where a dental disease was detected, the team contacted parents/guardians with a follow-up request for the child to be treated at a suitable permanent dental setting.

 

Commenting on the key role mobile dental units could play during the dental crisis in North Wales, Janet said:

 

“I have written to the Cabinet Secretary for Health and Social Care calling for mobile dental units to be deployed in North Wales. This will help ensure continued access to services, particularly in the communities most affected by recent practice closures.

 

“We know how effective such units can be in a dental dessert from the programme ran at Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Even the First Minister when Cabinet Secretary for Health commented that the results were positive. In fact, it was found that the majority of students assisted by the unit had not seen a dentist since before the pandemic, and that the unit was valued by parents and the wider community.

 

“While working to procure more dental contracts, it cannot be overlooked that the dental dessert is getting bigger. As many as six practices have handed back their NHS contracts in North Wales already this year.

 

“At a time when there is no quick way of recruiting more NHS dentists, why not deploy a mobile dental unit? It helped in Blaenau Ffestiniog and could help across North Wales.

 

“Neither the Welsh Government nor the Health Board can recruit enough dentists quickly enough to see practices opened in communities without provision. The best short term solution is mobile dental units that go to crisis communities”.

 

ENDS

Mae yna etholwyr o bob oed ledled Aberconwy heb fynediad at ddeintydd y GIG. Heb unrhyw ffordd gyflym o recriwtio mwy o ddeintyddion, bydd cyflwyno unedau deintyddol symudol yn helpu i sicrhau bod pobl yn cael eu gweld gan ddeintydd cymwys y GIG.

 

Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, sydd wedi eirioli dros ddull o'r fath ers amser maith, wedi galw eto am gyflwyno unedau deintyddol symudol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Cafodd rhaglen uned ddeintyddol symudol ei chydleoli yn Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog. Cynhaliwyd asesiadau deintyddol ar gyfer myfyrwyr 11 a 12 oed yn yr ysgol, a rhoddwyd ymyriadau atal clinigol effeithiol a seiliedig ar dystiolaeth iddyn nhw yn ôl yr angen. Os gwelwyd bod yna glefyd deintyddol, fe wnaeth y tîm gysylltu â rhieni / gwarcheidwaid gyda chais dilynol i'r plentyn gael ei drin mewn lleoliad deintyddol parhaol addas.

 

Gan drafod y rôl allweddol y gallai unedau deintyddol symudol ei chwarae yn ystod yr argyfwng deintyddol yn y Gogledd, dywedodd Janet:

 

"Rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn galw am unedau deintyddol symudol i gael eu defnyddio yn y Gogledd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau mynediad parhaus at wasanaethau, yn enwedig yn y cymunedau yr effeithir arnyn nhw fwyaf gan ddeintyddfeydd yn cau.

 

"Gwyddom pa mor effeithiol y gall unedau o'r fath fod mewn mannau lle nad oes deintyddfeydd ar sail y rhaglen a gynhaliwyd yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Dywedodd y Prif Weinidog hyd yn oed fod y canlyniadau'n gadarnhaol. Mewn gwirionedd, canfuwyd nad oedd mwyafrif y myfyrwyr a welwyd gan yr uned wedi gweld deintydd ers cyn y pandemig, a bod rhieni a'r gymuned ehangach yn gwerthfawrogi’r uned.

 

"Wrth weithio i gaffael mwy o gontractau deintyddol, ni ellir anwybyddu’r ffaith bod y bwlch deintyddol yn ehangu. Mae cymaint â chwe phractis wedi rhoi’r gorau i’w contractau GIG yn y Gogledd eisoes eleni.

 

"Ar adeg pan nad oes ffordd gyflym o recriwtio mwy o ddeintyddion y GIG, beth am ddefnyddio uned ddeintyddol symudol? Roedd yn help mawr ym Mlaenau Ffestiniog a gallai helpu ar draws y Gogledd.

 

"Ni all Llywodraeth Cymru na'r Bwrdd Iechyd recriwtio digon o ddeintyddion yn ddigon cyflym i agor deintyddfeydd mewn cymunedau heb ddarpariaeth. Yr ateb tymor byr gorau yw unedau deintyddol symudol sy'n mynd i gymunedau lle mae yna argyfwng".

 

DIWEDD

Llun: Janet Finch-Saunders AS

Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS

You may also be interested in

sioe

Praise for organisers of Sioe Llanrwst Show / Clod i drefnwyr Sioe Llanrwst

Monday, 30 June, 2025
The organisers of Sioe Llanrwst Show which took place on Saturday 28 July have been praised for the success of the event / Mae trefnwyr Sioe Llanrwst a gynhaliwyd dydd Sadwrn 28 Gorffennaf wedi cael eu canmol am lwyddiant y digwyddiad.The vote of thanks comes from Janet Finch-Saunders, Member of the

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree