Wrth i ni weld busnesau yn wynebu anawsterau difrifol yn sgil y cyfyngiadau symud yng Nghymru a pherchnogion yn llawn emosiwn o ganlyniad i chwalfa ariannol, mae Janet Finch-Saunders AS, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach, wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am drin busnesau’n annheg.
Mae beirniadaeth y Cadeirydd yn dilyn oedi gydag agor y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol, a Llywodraeth Cymru’n gorfodi busnesau i ymuno ag undebau.Ar 25 Medi 2020, ysgrifennodd Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd at berchnogion busnes yn honni:
- y dylai pob cyflogwr ystyried undebau llafur fel partneriaid;
- ac “Wrth dderbyn y grant roedd disgwyl i chi gyd-fynd ag ethos ac egwyddorion y Contract Economaidd”.
Gan gyfeirio at gais Llywodraeth Cymru y dylai busnesau ymuno ag undeb, dywedodd y Cadeirydd:
“Mae’r busnesau yn y rhannau hynny o Gymru sydd â chyfyngiadau symud yng nghanol argyfwng ariannol. Er enghraifft, yn fy nhref fy hun, mae rhai yn y sector lletygarwch a manwerthu wedi gwneud cyn lleied â £6.50 mewn diwrnod, tra mae rhai eraill wedi cau yn y gobaith o oroesi tan y gwanwyn.
“Rheoliadau Llywodraeth Cymru sydd wedi achosi’r argyfwng ariannol hwn, ac felly mae’n gwbl hanfodol eu bod yn darparu cymorth sydd yn gymesur â’r difrod sy’n cael ei achosi.
“Yn hytrach na chanolbwyntio ar y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol a bwrw iddi, mae Ken Skates wedi gwneud camgymeriad mawr.
“Wrth geisio creu iwtopia sosialaidd, mae wedi bod yn hunanol iawn ac wedi cyflwyno llythyr yn annog busnesau i gydweithredu ag undebau. Yn ystod yr argyfwng hwn, y camau gorau y gall cyflogwyr eu cymryd i gefnogi gweithwyr yw gweithio er mwyn ceisio achub swyddi. Ni fydd hynny’n bosibl oni bai bod cymorth cymesur yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru ac os yw’r cyfyngiadau economaidd cael eu codi”.
DIWEDD
Dogfen:
- Llythyr gan y Gweinidog