Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Byddai ymchwiliad Covid penodol i Gymru’n gyfle i “fyfyrio a pharatoi at beth a ddaw nesaf”

  • Tweet
Wednesday, 15 December, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Ddeunaw mis ers i’r Ceidwadwyr Cymreig alw am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i’r ffordd yr ymdriniwyd â’r pandemig COVID-19 yng Nghymru, mae Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi datgan yn glir bod safbwynt cyfredol Llywodraeth Cymru’n tanseilio gallu’r genedl i fyfyrio, cofio a pharatoi at beth a ddaw nesaf.

Yn yr Alban, bydd ymchwiliad COVID-19 dan arweiniad barnwr yn cael ei sefydlu erbyn diwedd y flwyddyn. Wrth i gefnogaeth i gynnal ymchwiliad tebyg yng Nghymru gynyddu, manteisiodd Mrs Finch-Saunders ar y cyfle heddiw mewn dadl ar y mater i groesawu galwadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am ymchwiliad COVID-19 penodol i Gymru. 

Wrth siarad ar ôl ei chyfraniad i’r sesiwn rithwir, dywedodd Janet:

“Wrth gyfarfod gyda “Bereaved Families for Justice Cymru yn y Senedd fis diwethaf, roedd y straeon torcalonnus o golled a chaledi yn tanlinellu’r angen am atebion unwaith eto. Drwy ei chefnogaeth ddiwyro i ymchwiliad pedair gwlad, mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod rhoi atebion i’r cyhoedd yng Nghymru ar y penderfyniadau a gymerwyd ganddi, a chanddi hi’n unig.

“O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull oedd yn dangos diffyg rhesymeg o godi mesurau’r cyfnod clo, yn amrywio o’r rheol bum milltir anghredadwy nad oedd yn cydnabod realiti cefn gwlad Cymru i ryddhau Cymru gyfan yn sydyn ar ôl y cyfnod atal byr, mae gwrthod yr ymchwiliad hwn yn golygu ein bod ni’n methu gwerthuso effaith rhai dulliau cyfyngu. 

“Bydd hygyrchedd i’r atebion hyn yn allweddol i’n cymuned fusnes sydd wedi’i siomi’n arw gyda’r ffordd y gwnaeth Llywodraeth Cymru ymdrin â’r pandemig, gyda chymorth ariannol yn cyrraedd yn hwyr ac mewn ffordd ddryslyd, a cheisiadau’n cael eu derbyn ar sail cyntaf i’r felin yn lle yn ôl yr angen. 

“Hyd heddiw, mae gen i fusnesau lletygarwch sy’n pryderu y bydd Llywodraeth Cymru’n penderfynu gwahardd gwerthu alcohol mewn tafarndai unwaith eto – cyfyngiad nad oedd yn gymesur ac a oedd yn niweidiol iawn i’r diwydiant lletygarwch, yn enwedig ym mis Rhagfyr pan fo busnesau’n gallu gwneud hyd at 25% o’u trosiant blynyddol. 

“Fel y dywedais yn glir yn y ddadl heddiw, drwy guddio y tu ôl i ymchwiliadau i benderfyniadau Llywodraeth y DU ar Covid-19, mae Llywodraeth Cymru’n tanseilio ein gallu i fyfyrio, cofio a pharatoi at beth ddaw nesaf.”

DIWEDD

Llun: Janet Finch-Saunders AS/MS

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree