Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Bubble Hut yn Dod â Lliw a Gobaith i Stryd Mostyn

  • Tweet
Friday, 2 July, 2021
  • Local News
 Janet Finch-Saunders AS gyda Darren a Michelle

Diolch i Darren (y perchennog) a Michelle (y rheolwraig), profodd Janet Finch-Saunders AS wledd arogleuol a gweledol pan ymwelodd â’u siop newydd, Bubble Hut, 51 Stryd Mostyn, Llandudno, LL30 2NN. Dywedodd Darren wrth yr Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy fod ei fusnes lleol yn cymryd camau i hyrwyddo’r amgylchedd a chynnyrch lleol. Gyda llawer o’r sebonau a’r cynnyrch bath yn cael eu caffael o Abergele a Glan Conwy, a’r perchennog yn byw yn y Sir hefyd, mae hon yn stori o lwyddiant gwirioneddol i’r gymuned ar ôl y cyfnod clo.

Wrth groesawu’r siop newydd, dywedodd Janet:

“Mae Bubble Hut yn gaffaeliad gwirioneddol i Landudno ac Aberconwy, gyda’i dewis gwych o sebonau a chynnyrch bath yn cefnogi ac yn creu swyddi lleol.

“Mae’r pandemig a’r symudiad tuag at siopa ar-lein wedi achosi cryn bryder am ddyfodol y stryd fawr. Fodd bynnag, mae Bubble Hut yn arwydd gobeithiol i Stryd Mostyn a Llandudno.

“Diolch yn ddiffuant i Darren am fod â’r hyder i fuddsoddi yn ein cymuned, ac ni allaf orbwysleisio ychwanegiad pa mor gyffrous yw ei siop i’n tref. Mae’r lliwiau’n dal llygaid, yr arogleuon yn ymlacio, ac mae ansawdd y nwyddau yn gweddu i frenhines trefi glan-môr Cymru”.

DIWEDD 

Llun: Janet Finch-Saunders AS gyda Darren a Michelle

Nodiadau: Gallwch gysylltu â Bubble Hut yma - https://www.facebook.com/bubblehut.online

 

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree