Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Bil cynnal a chadw ac atgyweirio o £916,000 yn cael ei ddatgelu ar gyfer Swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno

  • Tweet
Friday, 25 September, 2020
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (25 Medi), mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi siarad am ei phryder mawr yn sgil datgelu’r ffaith bod oddeutu £916,000 wedi’i wario ar gynnal a chadw ac atgyweiriadau i Swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno, rhwng 2017 a 2020.

Daeth y ffigurau yn sgil Cwestiwn Ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Mrs Finch-Saunders, sy’n dilyn datgeliad ganddi yn 2018 fod £2,246,000 wedi'i wario ar gynnal a chadw’r adeilad yn ystod y saith blynedd gyntaf. Agorodd swyddfa Cyffordd Llandudno yn 2010.

Mae’r rhan fwyaf o’r arian sydd wedi’i wario ers blwyddyn ariannol 2017/2018 wedi’i wario ar atgyweiriadau a phrynu nwyddau newydd, gwerth £543,000 i gyd. Mae hyn yn cynnwys gwariant o tua £224,000 ym mlwyddyn 2018/19 yn unig. Mae’r holl ffigurau sydd wedi’u cynnwys yn y datgeliad gan Lywodraeth Cymru wedi’u talgrynnu i’r mil agosaf.

Gan roi sylwadau ar y ffigurau, dywedodd Janet:

“Dwi’n bryderus iawn ynghylch y ffigurau hyn gan Lywodraeth Cymru, sy’n datgelu gwariant sylweddol i atgyweirio adeilad sydd ond wedi bod yno ers degawd. Mae swyddfa’r Gogledd wedi bod yn gur pen ariannol yn anffodus a dyw hi ddim yn edrych fel bod pethau am wella.

“Mae’n rhaid i ni gofio bod agor yr adeilad Llywodraeth Cymru hwn yn 2010 yn rhan o brosiect £91.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru a welodd tua £23 miliwn yn cael ei wario ar y swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno.

“Felly, mae’n gwbl annerbyniol bod dros hanner miliwn o bunnoedd wedi’u gwario ar atgyweiriadau a nwyddau newydd yn ystod y tair blynedd ariannol diwethaf. Ychwanegwch at hyn y bil atgyweiriadau o £1,112,000 a ddatgelwyd am y saith blynedd hyd 2017, ac mae’n amlwg fod gan y swyddogion sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r adeilad gwestiynau mawr i’w hateb.

“O ystyried yr hinsawdd economaidd, a’r cyfnod o adfer yn sgil Coronafeirws sy’n ein hwynebu, ni ellir gwario symiau fel hyn ar brosiectau ymffrost Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i weinyddiaeth Mark Drakeford egluro ar unwaith i bobl y Gogledd sut mae’r swyddfa hon wedi cael bod yn dwll ym mhwrs y trethdalwr.”

DIWEDD

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree