Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Baromedr Twristiaeth Cymru yn pwysleisio'r angen am fap clir ar gyfer ailagor

  • Tweet
Friday, 19 March, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi dweud ei bod yn pryderu am nad oes map clir ar gyfer ailagor a bod hyn yn effeithio ar iechyd meddwl perchnogion busnesau lleol.

Fel yr adroddwyd ym Maromedr Twristiaeth Cymru ym mis Mawrth 2021 nododd bron i hanner y perchnogion busnesau a holwyd eu bod yn dioddef mwy o straen a bod 20% wedi colli cynilion yn eu hymdrech i gynnal eu busnesau. Ymddengys fod perchnogion yn y Gogledd wedi cael eu taro'n arbennig o galed gan straen, gyda 60% yn nodi cynnydd. 

Wrth fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd meddwl hwn, dywedodd Janet:

"Gyda'r baromedr hwn yn cydnabod bod tua 19% wedi colli eu cynilion eu hunain wrth geisio cynnal eu busnes, a 97% o ymatebwyr yn dweud bod llai o dderbynion yn 2020, nid yw’n syndod o gwbl bod cynifer yn sôn eu bod yn dioddef gyda’u hiechyd meddwl.

"Mae'r ffaith bod tri o bob pedwar gweithredwr yn y Gogledd yn cymryd archebion ymlaen llaw yn dangos pa mor benderfynol a dyfalbarhaus yw’r diwydiant, a bod y Gogledd yn parhau’n gyrchfan gwyliau hynod atyniadol. Ac eto, mae llawer heb gael dyddiad ar gyfer ailagor.

"Er bod Lloegr a'r Alban fel ei gilydd wedi cyhoeddi mapiau manwl ar gyfer ailagor, mae'r diwydiannau craidd hyn yng Nghymru yn parhau yn y niwl. Mae'n hollbwysig bod dyddiad yn cael ei roi i'r bobl hyn sy’n creu swyddi, pe bai ond i liniaru ar y poen meddwl sy’n deillio o’r ansicrwydd hyn."

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

  • Gellir dod o hyd i Faromedr Twristiaeth Cymru ym mis Mawrth 2021 yma.

Llun: Janet Finch-Saunders AS/AS

 

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree