Mae’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders AS, wedi sôn am ei balchder yn yr ymroddiad a’r gwaith caled a ddangoswyd gan fyfyrwyr lleol ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch Rhyddhawyd canlyniadau swyddogol ar gyfer Safon Uwch, AS, Bagloriaeth Cymru a chymwysterau galwedigaethol ddydd Mawrth 10 Awst 2021, er i’r rhan fwyaf o ddisgyblion Cymru dderbyn eu graddau dros dro ym mis Mehefin.
Wrth ddathlu eu cyflawniadau, dywedodd Janet:
“Hoffwn longyfarch yn wresog bob myfyriwr sydd wedi derbyn ei ganlyniadau Safon Uwch. Mae heddiw’n garreg filltir bwysig i’n holl bobl ifanc sy’n gobeithio mynd i’r brifysgol, dechrau prentisiaeth neu gymryd eu camau cyntaf ym myd gwaith.
“Mae’r ymroddiad a’r gwaith caled y mae’r myfyrwyr hyn wedi’u dangos, drwy’r amgylchiadau mwyaf heriol, wedi bod yn anhygoel. Dylai pob myfyriwr fod yn hynod falch o’u cyflawniadau rhyfeddol a symud ymlaen i gam nesaf eu bywydau gan ddal eu pennau’n uchel.
“Mewn blwyddyn academaidd heb ei thebyg, dylem ganmol yr athrawon a’r rhieni hefyd sydd wedi darparu rhwydwaith cymorth hanfodol ac arweiniol, ac wedi ymdrechu y tu hwnt o galed i sicrhau bod cyfleoedd i ddatblygu yn parhau i fod ar gael i’r genhedlaeth nesaf. Rwy’n dymuno pob lwc i’n holl fyfyrwyr gyda’u camau nesaf.”
DIWEDD