Work to upgrade more than 550 metres of gas pipes in the Station Road area of Deganwy is underway and is set to continue until 21st November. These works will result in phased closures of both Deganwy Road and Station Road.
However, it is important to note that Deganwy remains open for business. Local businesses are still open and need support during the gas pipe upgrade process.
Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, is encouraging people in the area to continue shopping at and visiting local businesses in Deganwy.
Commenting on the situation, Janet said:
“I was saddened to learn that businesses in Deganwy are already being negatively impacted by the utility works. Many people are confused by the signage, and some are not aware that the businesses remain open as usual.
“Most of the businesses in the area are small independent enterprises that rely heavily on regular footfall. In return, they make a significant contribution not only to the local economy but to the Welsh economy as a whole.
“It is vitally important that we continue to support them throughout this process, and afterwards, by shopping locally and visiting these businesses.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Mae gwaith i uwchraddio mwy na 550 metr o bibellau nwy yn ardal Station Road yn Neganwy wedi cychwyn, a disgwylir iddo barhau tan 21 Tachwedd. Bydd y gwaith hwn yn arwain at gau Deganwy Road a Station Road ar wahanol adegau.
Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod busnesau Deganwy yn dal i fod ar agor ac angen cefnogaeth yn ystod y gwaith.
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn annog pobl yr ardal i barhau i siopa ac ymweld â busnesau lleol yn Neganwy.
Wrth sôn am y sefyllfa, dywedodd Janet:
"Trist oedd clywed bod y gwaith eisoes wedi dechrau cael effaith negyddol ar fusnesau yn Neganwy. Mae’r arwyddion yn drysu llawer o bobl, ac nid yw rhai yn ymwybodol bod y busnesau'n dal i fod ar agor fel arfer.
"Mae'r rhan fwyaf o'r busnesau yn yr ardal yn fentrau bach annibynnol sy'n dibynnu ar ymwelwyr rheolaidd, ac maen nhw’n gwneud cyfraniad sylweddol nid yn unig i'r economi leol ond i economi Cymru yn ei chyfanrwydd.
"Mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i'w cefnogi trwy gydol y broses hon, ac ar ôl hynny, trwy siopa'n lleol ac ymweld â'r busnesau hyn."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS/MS