Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Arweinyddiaeth gymunedol - thema ganolog digwyddiad Dydd Sul Dinesig Llandudno

  • Tweet
Monday, 20 September, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi croesawu llwyddiant Dydd Sul Dinesig yn Llandudno, a bwysleisiodd yr arweinyddiaeth gymunedol gref sy'n helpu i ailgodi’r dref ar ei thraed. Dyma seremoni ffurfiol sy'n dymuno'n dda i Faer Llandudno, y Cynghorydd Harry Saville , a'r Cyngor Tref.

Wedi digwyddiad coffa wrth y gofeb ryfel, aeth yr orymdaith ymlaen i Eglwys Fethodistaidd Sant Ioan ar Stryd Mostyn ar gyfer gwasanaeth bendith a phregeth gan Gaplan y Maer ar Rhufeiniaid 13 am rôl arweinyddiaeth gymunedol. Ar ôl hynny, fe wnaeth y pwysigion gymryd saliwt yn Neuadd y Dref cyn troi am westy St George am ginio ac areithiau. 

Wrth nodi'r achlysur, dywedodd Janet: 

“Roedd yn anrhydedd mawr cael ymuno â Maer a Maeres Llandudno, y Cynghorydd Harry Saville a Miss Loren, dros y penwythnos wrth i'n harweinwyr lleol ddod at ei gilydd mewn ennyd ddirdynnol o gofio a dymuno'n dda am y flwyddyn i ddod.

“Roedd gwasanaeth y penwythnos yn tanlinellu pwysigrwydd arweinyddiaeth gymunedol a meithrin cysylltiadau â chynrychiolwyr dinesig i sicrhau bod ein hadferiad mor gryf â phosibl. Mae'r data a ryddhawyd yr wythnos diwethaf a ddangosodd fod Llandudno yn ailgodi ar ei thraed ar raddfa gyflymach, o gymharu â strydoedd mawr eraill y DU, yn cadarnhau llwyddiant yr holl waith sy'n cael ei wneud yn lleol.

“Hefyd, hoffwn roi teyrnged i bawb a oedd yn bresennol, Band Tref Llandudno a ddarparodd drac sain mor wych i'r orymdaith, yn ogystal ag Ysgrifennydd y Maer, Clerc y Dref a Dirprwy Glerc y Dref am eu rôl yn trefnu digwyddiad mor wych. Yn yr un modd, rwy'n estyn diolch hefyd i Gaplan y Maer am ei phregeth hyfryd wnaeth osod y naws ar gyfer ein bendithion."

DIWEDD  

Llun: Janet Finch-Saunders AS gyda'i gŵr, Gareth, a Robin Millar AS San Steffan.

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree