Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Arolwg brawychus yn tynnu sylw at y rhaniad digidol parhaus sy’n wynebu cymunedau gwledig

  • Tweet
Tuesday, 25 May, 2021
  • Local News

Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd Aberconwy – wedi siarad am ei phryder dros y rhaniad digidol cynyddol yng Nghymru, wrth i arolwg newydd ddatgelu bod dros 50% o ymatebwyr o ardaloedd gwledig yn teimlo nad oedd eu cysylltiad rhyngrwyd yn gyflym nac yn ddibynadwy.

Nawr, mae Janet, sy’n gweithio gyda’r gymuned ar nifer cynyddol o achosion band eang, wedi cyflwyno Cwestiwn Ysgrifenedig ffurfiol i’r Gweinidog Newid Hinsawdd i sicrhau bod camau yn cael eu cymryd i gefnogi cyflwyno rhwydwaith ffeibr llawn yn gyflym.

Gan roi ei sylwadau ar ganfyddiadau’r arolwg, dywedodd Janet:

“Mae’r ffaith fod 66% o ymatebwyr yr arolwg yn nodi eu bod wedi’u heffeithio gan fand eang gwael yn dangos bod y rhaniad digidol yn parhau i gael effaith barhaus a sylweddol ar lwyddiant a lles ein cymunedau gwledig.

“Wrth weithio gyda’r gymuned ar y mater hwn, rydw i wedi clywed straeon brawychus am fusnesau yn cael trafferth gwneud eu gwaith ac am bobl ifanc yn methu gwneud eu gwaith cartref. Yn yr oes sydd ohoni, dylem fod yn gweithio i sicrhau’r un chwarae teg rhwng ein canolfannau gwledig a threfol.

“Gydag adroddiad Openreach diweddar yn tynnu sylw at yr effaith ysgytwol y byddai ffeibr llawn yn ei chael ar ranbarthau amrywiol y DU, rwyf bellach wedi gofyn i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am gysylltedd digidol egluro pa gamau brys a fydd yn cael eu cymryd i gefnogi cyflwyno band eang fel hyn yn llawer cynt ledled Cymru.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Cynhaliwyd yr arolwg gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched - Cymru, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru a CFfI Cymru. 
  • I ddarllen yr adroddiad a gomisiynwyd gan Openreach, cliciwch yma. 
  • Gofynnodd Cwestiwn Ysgrifenedig Janet i Julie James AS (y Gweinidog Newid Hinsawdd): “ Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan Gymru rwydwaith ffibr llawn cynhwysfawr, ymhellach i'r manteision a amlygwyd mewn adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan Openreach?”

Ffoto: gan Compare Fibre ar Unsplash

 

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree