Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Annog Llywodraeth Cymru i fanteisio ar brofiad ac adnoddau'r sector preifat i fynd i'r afael â materion polisi

  • Tweet
Tuesday, 4 January, 2022
  • Local News
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS gyda busnesau’r fro

Mewn galwad ar Lywodraeth Cymru, mae Janet Finch-Saunders, yr AS dros Aberconwy, wedi annog Gweinidogion Cymru i ddefnyddio'r flwyddyn newydd i fanteisio ar brofiad y sector preifat i fynd i'r afael â materion polisi hirsefydlog sy'n ymwneud â darparu cyfleoedd gwaith a thai.

Yn ddynes fusnes brofiadol a sefydlodd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Siopau Bach, cyfeiriodd Janet at enillwyr gwobrau 'Go North Wales' yn ddiweddar fel enghraifft o'r profiad a'r dalent y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu’n well â nhw. 

Ymhlith llwyddiannau'r noson yr oedd Mr Glenn Evans, Rheolwr Cyffredinol Gwesty'r Royal Oak, Betws-y-Coed, a enillodd y categori Arwr Twristiaeth a Lletygarwch. Yn yr un modd, dyfarnwyd 'gwobr 30 mlynedd' i Dr Shyam Patiar, a fu'n Gyfarwyddwr Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Llandrillo am flynyddoedd lawer, i gydnabod ei gyfraniad aruthrol i faes hyfforddi pobl ifanc. 

Gan dynnu sylw at yr angen am ffordd newydd o weithredu, meddai Janet:

“Mae'r modd y mae sector preifat Cymru wedi llwyddo i bontio her y pandemig yn arwydd o’u  gwydnwch, eu dyfeisgarwch a'u hoptimistiaeth. Wrth gydnabod heriau'r flwyddyn newydd hon, gan gynnwys darparu cyfleoedd gwaith hirdymor a thai gwell, rwy'n grediniol y dylai Llywodraeth Cymru weithio'n agosach gyda'r unigolion dawnus hyn. 

“Pan ystyriwch ansawdd gwych y gwasanaeth a ddarperir gan ein busnesau lletygarwch a bod eu rheolwyr profiadol wedi pontio'r newid diweddar mewn arferion defnyddwyr mewn modd sydd wedi cadw preswylwyr mewn gwaith, mae'n amlwg y byddai dyblygu'r dyfalbarhad a'r dycnwch hwn o fudd i'r amgylchedd polisi datganoledig. 

“Mae'n fendith cael cymysgedd bywiog o fentrau yn y sector preifat, o winllan i stondinau llysiau, o siopau crefft i gaffis, o fwytai i dafarndai, o lety i dwristiaid i ddarparwyr gweithgareddau antur, a llawer mwy. Gwn hefyd fod y llwyddiannau hyn yn cael eu hailadrodd ar draws etholaethau Cymru. 

“Gyda hyn mewn golwg, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i addunedu i weithio'n agosach gyda phrofiad, gwybodaeth ac adnoddau'r sector preifat."

DIWEDD 

Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS gyda busnesau’r fro

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree