Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Annog busnesau lleol i wneud cais i Wobrau Busnes Gogledd Cymru

  • Tweet
Wednesday, 10 November, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders AS, wedi dathlu'r ffaith bod Gwobrau Busnes y Daily Post/North Wales Live yn eu hôl, yn dilyn bwlch o flwyddyn, gan annog busnesau o bob rhan o'r etholaeth i enwebu eu hunain neu eraill.

Eleni, mae 10 categori ar wahân yn amrywio o Fusnes Newydd y Flwyddyn i bencampwyr gwyrdd. Mae rhestr lawn o gategorïau i'w gweld ar wefan y Gwobrau. Bydd y seremoni yn cael ei chynnal ddydd Mercher 15 Rhagfyr ym Mhrifysgol Bangor, dan ofal cyflwynydd tywydd ITV Emma Jesson. 

Wrth annog busnesau lleol i gymryd rhan, dywedodd Janet: 

“O'n cynhyrchwyr bwyd a diod sy'n ennill enw da yn fyd-eang am eu hansawdd, i'n busnesau lletygarwch a llety gwych sy'n sicrhau ein bod yn parhau i fod yn drysor yng nghoron twristiaeth Cymru a phrifddinas antur y DU; mae’r Gogledd, ac etholaeth Aberconwy yn arbennig, wedi'i bendithio ag ysbryd entrepreneuraidd ddiflino. 

“Mae'r ffordd y mae ein busnesau lleol wedi llwyddo i bontio'r un mis ar hugain diwethaf, gyda chefnogaeth barhaus trigolion lleol ac er gwaethaf yr heriau o Fae Caerdydd, yn dyst i'w gwydnwch, eu dyfeisgarwch a'u hoptimistiaeth. Pa ffordd well o grisialu eu llwyddiant na thrwy fuddugoliaeth yn y gwobrau busnes rhanbarthol pwysig hyn? 

“Mae'n wych gweld y gwobrau’n cael eu cynnal eto gan eu bod yn rhoi sylw haeddiannol iawn i ymdrechion ein cymuned fusnes. Rwy'n annog busnesau ac entrepreneuriaid lleol i gystadlu yn y gwobrau hyn fel y gellir cydnabod a hyrwyddo eich gwaith ar draws nifer o deitlau print a digidol.”  

DIWEDD 

Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS/MS 

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree