Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Angen esboniad ar unwaith am gynllun cymorth busnes Llywodraeth Cymru

  • Tweet
Tuesday, 18 May, 2021
  • Local News

Mewn llythyr brys i’r Gweinidog Economi newydd, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi amlygu pryderon perchnogion busnes ledled yr etholaeth am y cylch diweddaraf o gyllid cymorth y Gronfa Cadernid Economaidd, gan gynnwys yr angen i ôl-ddyddio i ddechrau blwyddyn ariannol 2021 i gynorthwyo gydag ailddechrau masnachu.

Mae’r Aelod hefyd wedi nodi’n glir yr angen am adolygiad brys o’r geiriau sydd wedi’u cynnwys ar wefan Busnes Cymru, sy’n arwain at ddryswch ynghylch y dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer unrhyw gais a gyflwynir yn y dyfodol. Mae Janet yn poeni y bydd hyn yn arwain at sefyllfa fel yr un a welwyd yn ystod y cyfnod atal byr ym mis Hydref y llynedd, pan wrthodwyd ceisiadau yn sgil dryswch am y dystiolaeth ofynnol.

Wrth sôn am ei llythyr brys, dywedodd Janet:

“Tra bod busnesau ledled Aberconwy yn croesawu cymorth i bontio’r cyfnod cyn ailagor yn llawn, mae’n ffaith bod y gyfran ddiwethaf o gyllid wedi dod i ben fwy na mis yn ôl ac mae hynny wedi gadael llawer mewn picil ac yn cael anhawster ailddechrau.

“Ar adeg dyngedfennol yn ein hadferiad, allwn ni ddim caniatáu hyn. Dyna pam fy mod wedi defnyddio fy llythyr i adleisio galwadau UK Hospitality Cymru i ôl-ddyddio cymorth i ddechrau’r flwyddyn ariannol, er mwyn i fusnesau gael eu digolledu am bob wythnos o’r cyfyngiadau arnynt.

“Os na ellir cyflawni hyn, rwyf wedi gofyn i’r Gweinidog ystyried gweithredu cynllun tebyg i Grant Ailddechrau Llywodraeth y DU, a ddylai helpu i atal mwy o fusnesau rhag gorfod cau eu drysau. Byddai’n gamgymeriad peidio â gweithredu ar y rhybuddion gan randdeiliaid.

“Mae gan fusnesau lleol bryderon hefyd am eiriau’r meini prawf ar wefan Busnes Cymru. Mae’n hollbwysig ein bod yn osgoi ffars cymorth y cyfnod atal byr, lle gwrthodwyd llawer o geisiadau cymwys yn sgil dryswch dros y dystiolaeth ofynnol.

“Mae’n rhaid cael eglurhad ar unwaith cyn i’r porth agor ar gyfer ceisiadau a chael sicrwydd y bydd busnesau sydd wedi derbyn y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig yn gymwys am y Gronfa Cadernid Economaidd. Ar hyn o bryd mae hyn yn ymddangos yn ansicr iawn, ac mae’n achosi pryder go iawn i grewyr swyddi sydd eisoes dan bwysau.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Mae copi o lythyr Janet at y Gweinidog wedi’i amgáu.

Llun gan  Ibrahim Boran ar Unsplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree