Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Angen cyflwyno cynllun adfer positif, hirdymor i helpu busnesau lleol i “ailgodi a ffynnu”

  • Tweet
Wednesday, 19 January, 2022
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mewn cyfraniad eang i drafodaeth y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfyngiadau Covid-19, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun positif, hirdymor er mwyn i fusnesau a chymunedau lleol allu ailgodi a ffynnu.

Defnyddiodd Mrs Finch-Saunders ei chyfraniad i ofyn am gymorth pellach i’r busnesau hynny sydd wedi eu heffeithio gan gyfyngiadau Omicron, gan gynnwys nodi’n glir yr angen am eglurder ynghylch pam fod angen i fusnesau ddarparu tystiolaeth ar hyn o bryd o ostyngiad o 50% mewn incwm. Mewn gwirionedd, gall gostyngiad llawer llai fod yn niweidiol iawn yn aml.

Ddoe, denodd Janet ymrwymiad gan y Prif Weinidog i “edrych ar y mater penodol” o feini prawf cyllid ar gyfer eiddo llety hunanddarpar. Ar hyn o bryd, ni fydd busnesau yn gymwys am y cymorth grant a gynigir oni bai bod yr eiddo hunanddarpar ar gyfer 30 pobl neu fwy, neu fod y llety hunanddarpar yn cael ei ystyried yn ganolfan addysg awyr agored. Ar hyn o bryd, nid oes gan Awdurdodau Lleol bwerau disgresiwn ynghylch y penderfyniad hwn.

Yn rhoi sylwadau ar ei chyfraniad, dywedodd Janet:

“Yn drist iawn, mae Cymru yn parhau yn wahanol i eraill ar faterion polisi iechyd cyhoeddus. Er gwaetha’r dystiolaeth wyddonol fanwl o Dde Affrica, mae’n parhau’n bryder mawr i sawl busnes bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi gorymateb i Omicron, gan achosi poen a phryder sylweddol.

“Mae’r amserlen arfaethedig bresennol yn golygu y bydd gan ein busnesau lletygarwch dan do bythefnos pellach o gyfyngiadau, gan yrru’r bunt Gymreig dros y ffin i Loegr fel y gwelwyd Nos Galan. Amcangyfrifodd Prif Weithredwr Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Cymru, ar gyfartaledd, bod tafarndai wedi colli £16,000 dros gyfnod presennol y cyfyngiadau.

“Mae nifer uchel o bobl yn canslo yn parhau i amharu ar ein sectorau lletygarwch a thwristiaeth. Er ei bod yn amlwg bod ymddygiad defnyddwyr wedi newid, mae’r pwysau digynsail sy’n cael ei roi ar ein busnesau yn parhau i roi bywoliaethau a chyfleoedd cyflogaeth yn y sector mewn perygl.

“Dyma pam fy mod wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i ystyried sicrhau bod mwy o arian ar gael ar gyfer y busnesau sydd wedi’u heffeithio yn sgil yr ymateb i Omicron, yn enwedig o ystyried bod Llywodraeth y DU wedi darparu £270 miliwn ychwanegol ym mis Rhagfyr ar ben y swm a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref.”

Roedd Mrs Finch-Saunders yn siarad ar ôl clywed cadarnhad bod dros 1.8 miliwn o ddosau atgyfnerthu a thrydydd dos wedi’u rhoi yng Nghymru, a dywedodd “nawr yw’r amser i hybu hyder busnesau a’r cyhoedd ar ôl dwy flynedd o gyfyngiadau.”

Roedd ymchwil gan University College London i SAGE ym mis Rhagfyr yn awgrymu bod pobl ddwywaith yn fwy tebygol o ddal COVID wrth siopa na phan maent mewn tafarn neu sinema pan nad oes cyfyngiadau ar waith.

DIWEDD

You may also be interested in

J

£1bn NHS Repairs Backlog Sparks Concerns Over North Wales Hospitals / Ôl-groniad atgyweiriadau'r GIG gwerth £1bn yn sbarduno pryderon am ysbytai’r Gogledd

Tuesday, 7 April, 2026
Janet Finch-Saunders MS has raised serious concerns about the condition of NHS buildings across North Wales, following figures released from NHS Wales Shared Services Partnership. The ‘high’ risk backlog has risen 71% in four years, according to NHS Wales Shared Services Partnership.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree