Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Amlygu pryderon ynghylch anghydbwysedd yn nifer y cleifion mewn meddygfeydd teulu yng Nghymru

  • Tweet
Tuesday, 5 October, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mewn cwestiwn i’r Prif Weinidog heddiw oedd â’r nod o ddiogelu cleifion ac ysgafnhau’r pwysau ar staff Gofal Sylfaenol rheng flaen, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o nifer y cleifion y gall unrhyw bractis unigol eu cael ar eu llyfrau, ynghyd ag oriau gwaith practisau.

Yn ôl y Cyngor Iechyd Cymunedol, mae pobl mewn rhannau o Gymru yn wynebu “argyfwng mynediad” at feddygon teulu. Mae Bwrdd Iechyd Betsi yn amcangyfrif bod y galw am apwyntiadau wedi cynyddu o hyd at 20% yn y practisau lleol y mae’n eu rheoli. Yr wythnos diwethaf, wrth gydnabod y pwysau sy’n cael ei deimlo, galwodd Mrs Finch-Saunders yn yr un modd ar i'r Prif Weinidog adolygu’r gefnogaeth sydd ar gael i feddygon teulu i alluogi rhyngwynebu haws a gwell gyda chleifion.

Yn rhoi sylwadau ar ei chwestiwn, dywedodd Janet:

“Mae’r galw am ein gwasanaethau Gofal Sylfaenol yn cynyddu gan fod cleifion yn amlwg wedi rhoi problemau i’r neilltu yn y deunaw mis heriol diwethaf.

“Fodd bynnag, un pryder a allai fod yn cyfrannu at y broblem yw’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gadael i nifer di-ddiwedd o gleifion gofrestru gyda phob meddyg, ac nid yw’n rhoi digon o sylw i nifer y cleifion dros 65 oed. Mae hyn yn gwyro pwysau ar y galw pan fo meddygfa wedi cofrestru nifer uwch o breswylwyr.

“Yn ôl  y Dadansoddiad o Bractisiau Meddyg Teulu ym mis Gorffennaf 2021, a luniwyd gan y Bartneriaeth Cydwasanaethau, mae gan un feddygfa yn fy etholaeth i dros 6000 o gleifion wedi’u cofrestru ar gyfer dau feddyg yn unig. Mae angen llawn werthfawrogi’r effaith negyddol y gall y pwysau hyn ei chael ar staff Gwasanaethau Sylfaenol a chleifion sy’n agored i niwed.

“Dyma pam fy mod yn annog y Prif Weinidog i gydweithio gyda Gweinidog Iechyd Cymru i adolygu nifer y cleifion y gall unrhyw bractis unigol eu cofrestru ar eu llyfrau, ac ailystyried oriau gwaith ein practisau er mwyn gallu eu targedu i fodloni gofynion bywyd modern.”

DIWEDD

Ffoto: Janet Finch-Saunders AS 

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree