Mae’r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi defnyddio dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar ffyrdd i alw am adolygiad o derfynau cyflymder gwledig er mwyn sicrhau “newid o’r strategaeth adweithiol bresennol tuag at orfodi polisi rhagweithiol.” Mynegodd Janet bryderon hefyd ynghylch cynllunio gwaith ar yr A5 ger Capel Curig a’r A470 drwy Ddyffryn Conwy wrth i’r ardal wynebu tymor twristiaeth yr haf.
Wrth gynnig sylwadau ar ôl y ddadl, dywedodd Janet:
“Yn anffodus, nid peth newydd yw problem amodau ffyrdd gwael a thanfuddsoddi yng Ngogledd Cymru. Drwy gydol y Pumed Senedd, ymgyrchais yn ddi-baid i geisio gwella ffyrdd gwledig lleol a lleihau terfynau cyflymder o 60mya i ddiogelu ein cymunedau gwledig.
“Ond er i’r Prif Weinidog ddweud wrthyf y byddai’r canllawiau’n cael eu hadolygu o Haf 2020 ymlaen, nid yw hyn wedi digwydd. Fel y soniais yn glir yn fy araith heddiw, mae dal angen newid o’r strategaeth adweithiol bresennol tuag at orfodi polisi rhagweithiol.
“A dweud y gwir, mae’n amhosibl bellach i ni aros i ddamweiniau ddigwydd cyn cyflwyno’r newidiadau angenrheidiol i derfynau cyflymder. Felly, byddaf yn dal ati i alw am ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o derfynau cyflymder o’r fath.
“Rwyf hefyd wedi galw am astudio cynllunio gwaith ffordd, gan fod gwaith ar yr A5 ger Capel Curig a’r A470 drwy Ddyffryn Conwy yn achosi cryn darfu wrth i ni wynebu tymor twristiaeth yr haf. Ar ôl 15 mis o her, dyma’r peth olaf sydd ei angen ar ein busnesau.”
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS/MS