Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Adeiladu ar ysbryd cymunedol cyn 'National Thank You Day', meddai Janet

  • Tweet
Friday, 2 July, 2021
  • Senedd News

Cyn y diwrnod arbennig hwn o ddiolch ddydd Sul 4 Gorffennaf, mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi annog trigolion i nodi'r achlysur gyda 'gweithred fach dda o ddiolch', ar ôl dod ynghyd heddiw gydag aelodau'r gymuned a'r Gymdeithas Cadwraeth Forol i lanhau’r traeth ar hyd Traeth y Gogledd Llandudno.

Mae'r National Thank You Day wedi ennyn cefnogaeth gan gannoedd o sefydliadau, gan gynnwys y Sgowtiaid a'r Geidiaid, y Rotari, y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol a'r GIG. Mae aelodau o'r cyhoedd yn cael eu hannog i nodi'r dyddiau mewn sawl ffordd wahanol, o bicnic i waith casglu sbwriel Cadwch Brydain yn Daclus.

Wrth nodi'r diwrnod, dywedodd Janet: 

“Er bod y 15 mis diwethaf wedi bod yn her aruthrol i gynifer o bobl, mae wedi bod yn braf gweld trigolion a sefydliadau Aberconwy yn dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd. Mae ond yn iawn i ni gymryd eiliad i ddathlu'r ysbryd cymunedol hwn.

“Roedd cymaint o achosion o bobl yn gwirfoddoli i helpu eraill, gan gynnwys Clwb Rotari Dyffryn Conwy a Golygfa Gwydyr yn darparu gwasanaeth banc bwyd i'r rhai agored i niwed. Yn yr un modd, cynigiodd Alpine Travel wasanaeth trafnidiaeth gymunedol fel bod pobl yn gallu mynd i siopa am hanfodion a gwneud pethau fel casglu presgripsiynau.

“Dyma pam y byddwn yn annog trigolion i nodi'r achlysur gyda gweithred fach dda o ddiolch, boed yn bicnic gydag anwyliaid neu'n casglu sbwriel yn wirfoddol yn eich man gwyrdd lleol. Drwy adeiladu ar yr ysbryd o gefnogaeth sydd wedi'n helpu ni gyd drwy'r cyfnodau clo, a dathlu'r rhai sydd wedi gwneud lles, gallwn barhau i sicrhau adferiad cryfach a mwy gofalgar."

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion: 

  • Mae Diwrnod Diolch yn digwydd ar 4 Gorffennaf 2021 ac fe'i cefnogir gan gannoedd o sefydliadau ledled y DU gan gynnwys y GIG, y Sgowtiaid, y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol a'r Gymdeithas Bêl-droed. Mae Diwrnod Diolch yn galw ar bobl i ddod at ei gilydd gyda'u ffrindiau a'u cymdogion ar 4 Gorffennaf mewn ffordd ddiogel a chyfrifol, i ymuno yn y diolch mwyaf erioed.
  • I wybod mwy, ewch i'r wefan trwy glicio yma. 

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree