Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AC yn galw am fwy o onestrwydd dros yr oedi cyn ymgynghori ar welliannau i’r A55

  • Tweet
Tuesday, 10 October, 2017
  • Local News

Mae Janet Finch-Saunders AC, Aelod Cynulliad Aberconwy, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod proses ymgynghori lawn ac agored yn cael ei chynnal ar gyflwyno gwelliannau i Gyffyrdd 15 ac 16 yr A55.

 

Deallir y bydd y gwaith arfaethedig yn golygu cael gwared ar gylchfannau yn y cyffyrdd hyn.

 

Mae’r broses eisoes ar ei hôl hi, gyda gwefan Llywodraeth Cymru’n dweud “rydym yn gobeithio cynnal arddangosfeydd i roi gwybodaeth i'r cyhoedd dechrau 2017” ond mewn ymateb i Gwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad yn ddiweddar, awgrymwyd y byddai’r rhain yn cael eu cynnal tua diwedd y flwyddyn.

 

Meddai Janet:


“Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gohirio ei harddangosfeydd gwybodaeth gyhoeddus. Er fy mod i’n falch o nodi y byddant yn cael eu cynnal yn ddiweddarach eleni, rwy’n dal i boeni nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi amserlen bendant ar gyfer dechrau’r broses ymgynghori.

 

“Mae’n hollbwysig bod yr ymgynghoriad ar y gwaith hwn, sy’n debygol o effeithio ar lawer o drigolion a busnesau lleol, yn gwbl agored, yn dryloyw  ac ar gael i bawb.

 

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos sut y cafodd barn a sylwadau pawb a effeithir eu hystyried cyn dechrau unrhyw waith yn yr ardal hon.”

 

 

 

 

Nodiadau:

 

Yn ôl gwefan Llywodraeth Cymru

 

“Ymgynghori

Cynhaliwyd gweithdai i randdeiliaid ym mis Gorffennaf 2008.

Rydym yn gobeithio cynnal arddangosfeydd i roi gwybodaeth i'r cyhoedd dechrau 2017 ar ôl penodi contractwr ECI.

Camau nesaf

Byddwn yn penodi contractwr ECI hydref 2016.”

 [Dolen:http://gov.wales/topics/transport/roads/schemes/a55/junction-15-junctio…]

 

Cwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad:

 

 

CWESTIWN YSGRIFENEDIG Y CYNULLIAD

I’W ATEB GAN

YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS YR ECONOMI A’R SEILWAITH

AR 11 HYDREF 2017

 

 

Janet Finch-Saunders (Aberconwy):  A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran y gwaith gwella i gyffyrdd 15 a 16 ar yr A55, i gynnwys manylion yr ymgynghoriad cyhoeddus, ac amserlen fanwl ar gyfer datblygu, ymgynghori, dylunio ac adeiladu? (WAQ74330)

 

Ken Skates: We recently appointed Carillion as the Early Contractor Involvement (ECI) contractor to progress the improvements of Junctions 15 and 16 on the A55.  Over the next 18 months we will be progressing the design development of both junctions which will include public consultations.  We are planning to hold Public Information Exhibitions towards the end of the year where further details of the programme for delivering the junction improvements will be presented.

 

 

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree