Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AC Aberconwy yn cefnogi galwadau NFU i adolygu’r Rhaglen Datblygu Gwledig

  • Tweet
Friday, 25 October, 2019
  • Senedd News
Janet

Mae’r NFU a Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, am weld adolygiad brys o’r Rhaglen Datblygu Gwledig yng Nghymru. Mae hyn yn sgil cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer ffermio ar ôl Brexit yn Ffermio Cynaliadwy a’n Tir.

 

Mae’r cynigion sy’n cael eu hystyried yn cynnwys cyflwyno Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fyddai’n cynnwys dwy ran: cymorth busnes gyda ffocws ar gyngor, buddsoddi cyfalaf a datblygu sgiliau, a’r Taliad Ffermio Cynaliadwy a fyddai’n gwobrwyo ffermwyr am gyflawni canlyniadau.

 

Wrth drafod y sefyllfa, dywedodd Janet:

 

“Rydw i am weld diwydiant ffermio cynhyrchiol a phroffidiol yma yng Nghymru.

 

“Mae Brexit yn cynnig cyfle i fynd i’r afael â phroblemau difrifol, megis y ffaith ein bod ond yn cynhyrchu digon o fwyd i fod yn hunangynhaliol am 61% o’r flwyddyn.

 

“Ers cyhoeddi Brexit a’n Tir, rydw i wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cynhyrchu bwyd yng Nghymru, ac wedi bod yn glir bod angen taliadau uniongyrchol, yn enwedig er mwyn i ffermwyr gael cymorth gydag anwadalrwydd y farchnad.

 

“Dydw i ddim am reoli prisiau’r farchnad o gwbl, ond mae’n rhesymol disgwyl i Lywodraeth Cymru gael strategaeth sy’n ddigon hyblyg i ymateb i newidiadau yn yr hinsawdd ar ôl Brexit.

 

“Yn syfrdanol, nid oes gan y cynlluniau diweddaraf fecanwaith sefydlogrwydd o hyd, sy’n golygu y byddai ffermwyr yn agored iawn i beryglon marchnad anwadal.

 

“Mae ffermwyr wedi cysylltu â mi i fynegi eu pryderon bod cynigion Llywodraeth Cymru yn efelychu’r Rhaglen Datblygu Gwledig. Wrth ystyried bod y gwariant ar gyfer y cyfnod 2014-20 ond yn 41% erbyn diwedd mis Awst, mae aneffeithlonrwydd y model fel dull cymorth yn ymddangos yn glir.

 

“Hefyd, ni all fod yn iawn fod ffermwyr wedi gorfod cyflogi cynghorwyr ac ymgynghorwyr i helpu gyda’u ceisiadau.

 

“Mae angen adolygiad brys o’r rhaglen felly i bennu ei heffeithiolrwydd ac egluro sut dylai Llywodraeth Cymru geisio helpu i gynnal cynhyrchiant bwyd o ansawdd uchel yng Nghymru a’i hybu os oes modd”.

 

DIWEDD

 

Cwestiynau Ysgrifenedig i’r Cynulliad gan Janet

 

A fydd y Gweinidog yn cynnal adolygiad o’r Rhaglen Datblygu Gwledig gyda’r nod o ddarparu dadansoddiad o’i effeithlonrwydd?

 

All y Gweinidog egluro pam mai dim ond 41% o’r arian a ddyrannwyd i gyfnod 2014-20 y Rhaglen Datblygu Gwledig sydd wedi’i wario?

 

Yn dilyn Ffermio Cynaliadwy a’n Tir, all y Gweinidog ddarparu manylion yr hyn y mae’n ei ystyried fel cymhlethdod gweinyddol y Rhaglen Datblygu Gwledig?

 

 

 

Dogfennau:

 

Ymateb Janet i ymgynghoriad Brexit a’n Tir (2018)

 

Nodiadau:

 

Ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a'n Tir (NFU)

 

Ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a'n Tir (Llywodraeth Cymru)

 

 

Ffotograff:

 

Janet Finch-Saunders AC ym Marchnad Llanrwst

Attachments

Attachment Size
Ymateb Janet i ymgynghoriad Brexit a’n Tir (2018) (611.95 KB) 611.95 KB

You may also be interested in

J

£1bn NHS Repairs Backlog Sparks Concerns Over North Wales Hospitals / Ôl-groniad atgyweiriadau'r GIG gwerth £1bn yn sbarduno pryderon am ysbytai’r Gogledd

Tuesday, 7 April, 2026
Janet Finch-Saunders MS has raised serious concerns about the condition of NHS buildings across North Wales, following figures released from NHS Wales Shared Services Partnership. The ‘high’ risk backlog has risen 71% in four years, according to NHS Wales Shared Services Partnership.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree