Mae’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi sôn am yr angen i “gynnal ac adfer” y gwasanaethau a gynigir yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno, gan gyhoeddi ei bod wedi cyflwyno cais am gyfarfod o Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno (LHAG) i drafod yr angen am gamau cadarnhaol ymlaen.
Ymhlith y cyfleusterau yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno mae Uned Dwysedd Esgyrn, Uned Osteoporosis ac Uned Rhewmatoleg. Mae’r Uned Mân Anafiadau yn gallu cynorthwyo gydag ysigiadau hefyd; briwiau a chrafiadau; sgaldio; rhywbeth yn llygad yr unigolyn; brathiadau gan bryfed; a mân anafiadau i’r pen. Fodd bynnag, dim ond rhwng 8 y bore ac 8 yr hwyr y mae’r uned ar agor bob dydd.
Ym mis Tachwedd, soniodd Janet am ei braw pan ddatgelwyd nad oedd Uned Gofal Symudol (ACU) y safle wedi gweld unrhyw glaf yn 2021. Fe wnaeth y newyddion hyn, a gafwyd drwy’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ysgogi galwadau i ailagor y ganolfan fel ffordd o fynd i’r afael â’r rhestrau aros.
Bydd Mrs Finch-Saunders, sydd wedi lansio holiadur ar-lein i adolygu pryderon iechyd trigolion, yn codi ei phryderon yn ffurfiol am ddyfodol yr ysbyty lleol mewn ymateb i ymgynghoriad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ar ryddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai.
Wrth sôn am ei gwaith, dywedodd Janet:
“Rwy’n credu ers tro byd nad oes digon o ddefnydd yn cael ei wneud o Ysbyty Llandudno. Rwy’n gwybod am lawer o etholwyr a fyddai’n teimlo’n awtomatig, ac yn anffodus braidd, nad oedd ganddynt fawr o ddewis ond gyrru i Ysbyty Glan Clwyd neu Ysbyty Gwynedd gan fod adran frys Ysbyty Llandudno wedi’i hisraddio.
“Dylid adolygu’r rhestr o gyfrifoldebau ar gyfer yr Uned Mân Anafiadau yn Llandudno er mwyn penderfynu a all gynnig mwy o gymorth a gofal rownd y cloc. Yn yr un modd, gyda phryderon hirhoedlog am amseroedd aros hir i gleifion gael diagnosis a thriniaeth briodol, rhaid i’r Uned Gofal Symudol ailagor i gleifion cyn gynted â phosibl.
“Mae’r angen ymyrryd ar fyrder ar gyfeiriad strategol yr ysbyty hwn. Yn wir, roeddwn i’n pryderu’n fawr o glywed gan Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd fod tri aelod o’r staff meddygol sy’n rhedeg gwasanaeth yr Uned Gofal Symudol wedi gadael ers oedi’r gwasanaeth, gyda dau’n symud i rolau newydd yn Lloegr ac un arall yn dychwelyd i ofal sylfaenol.
“Dyma pam fy mod i wedi gofyn am gyfarfod o Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno, er mwyn ystyried cynllun gweithredu cadarnhaol. Gyda lleoliad canolog ar hyd arfordir y Gogledd, gall cynnal ac adfer y gwasanaethau a gynigir gan Ysbyty Llandudno helpu i leddfu’r baich ar safleoedd eraill yn y rhanbarth, gan sicrhau bod cleifion yn cael gofal mwy amserol.”
Yn dilyn cyfarfod â Phrif Weithredwr a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yr wythnos hon, lle ategwyd pryderon am effaith cyllid cyfalaf ar welliannau i ystadau, mae Janet hefyd wedi cyflwyno’r Cwestiwn Ysgrifenedig canlynol i Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru:
“A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i adolygu anghenion cyllid cyfalaf hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o ran uwchraddio ystadau?”
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS