Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn trafod pryderon ynghylch rhif Pasys Covid y GIG

  • Tweet
Tuesday, 30 November, 2021
  • Local News

Ar ôl gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar effaith gweinyddu’r cyfyngiadau Covid-19 ar y boblogaeth hŷn, mae Jane Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi mynd ati i hyrwyddo’r ffordd y gall preswylwyr wneud cais am Bas Covid GIG papur. Daw hyn yn dilyn pentwr o ohebiaeth ynghylch y mater.

Ddoe, ar ôl derbyn ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch maint y ciwiau y tu allan i ganolfannau brechu yn yr etholaeth, gofynnodd Janet i breswylwyr “gyrraedd yn brydlon” i ganolfannau brechu lleol, yn hytrach na chyrraedd yn gynnar. Yn eu llythyr ymateb, pwysleisiodd y Bwrdd Iechyd y gall absenoldeb staff diweddar a phresenoldeb gofalwyr ychwanegu at y pwysau sy’n achosi ciwiau.

Gall preswylwyr gael gafael ar bas papur drwy ffonio 0300 303 5667.  

Yn rhoi sylwadau ar bryderon am hygyrchedd, dywedodd Janet:

“Yn ddiweddar, wrth adleisio’r pryderon am gydraddoldeb yr wyf wedi’u crybwyll dro ar ôl tro ynghylch gweithredu Pas Covid y GIG, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith mai dim ond 40% o bobl dros 75 oed yng Nghymru sy’n defnyddio’r rhyngrwyd, o’i gymharu â 98% o bobl 16-44 oed. Mae hyn yn golygu bod cael gafael ar y pas digidol yn llawer anoddach os ydyn nhw am gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden.

“Yr wythnos diwethaf, mi wnes i rannu pryderon eto gan breswylwyr gyda Llywodraeth Cymru a oedd yn dweud nad oedd y rhif i ofyn am bas papur yn gweithio bob tro. Yn wir, yn ddiweddar ceisiodd fy swyddfa gysylltu dair gwaith, dim ond i dderbyn neges yn datgan na ellid cysylltu â’r  gwasanaeth. Mae hyn yn amlwg yn gwbl annerbyniol.

“O ystyried hyn, law yn llaw â’r ffaith bod y galwadau hyn yn costio rhwng 2c a 40c y funud fel arfer, mae’n ymddangos yn wirion bost y bydd tâl yn cael ei godi ar y preswylwyr hynny sy’n mynd allan o’u ffordd i gydymffurfio â rheoliadau Llywodraeth Cymru.

“Mi wna’i barhau i erfyn am ddatganiad ar effeithlonrwydd a gweithrediad y system archebu pasys ar y ffôn ac a oes ffordd o ddileu unrhyw daliadau am y galwadau hyn. Yn y cyfamser, anogaf breswylwyr i gysylltu os ydyn nhw’n wynebu unrhyw broblemau.”

Cynghorir preswylwyr sy’n profi problemau i gysylltu â swyddfa’r Aelod drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 01492 871198. 

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree