Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn sicrhau ymrwymiad i gylchfan Black Cat

  • Tweet
Monday, 10 August, 2020
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi croesawu ymrwymiad heddiw (10 Awst) i wella'r amodau traffig presennol o amgylch cylchfan Black Cat, sydd wedi datblygu o ganlyniad i waith gwella ffyrdd parhaus.

Daw'r cynnydd yn dilyn sgyrsiau rhwng Mrs Finch-Saunders ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA), sydd wedi cael y dasg o gyflawni'r gwelliannau ar Gyffordd 19 yr A55 ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r gwaith ffordd yn cynnwys lledu'r gyffordd, adeiladu croesfannau mwy diogel i gerddwyr a beicwyr, a gosod signalau traffig mewn lleoliadau allweddol. 

Wrth sôn am ymrwymiad Llywodraeth Cymru, dywedodd Janet: 

“Mae llawer o etholwyr wedi cysylltu â'm swyddfa yn poeni am yr holl dagfeydd sy'n deillio o'r gwaith ffordd hwn. Mae'r traffig yn cael effaith negyddol ar gymudo dyddiol ac yn gadael preswylwyr ac ymwelwyr yn eu hunfan am bron i ddeugain munud yn aml. 

“Yn dilyn sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru, rwyf wrth fy modd bod rheolwr y rhaglen wedi ymrwymo i ymchwilio i bob cyfle posib i leihau'r probemau traffig presennol.

“Mae hwn yn ymrwymiad hollbwysig i sicrhau bod y tagfeydd presennol yn cael eu lleihau gymaint â phosibl, a bod y traffig yn llifo'n gynt ar hyd y ddwy lôn. Mae'r ymrwymiad o fudd i'r amgylchedd ac iechyd y cyhoedd hefyd, gan y bydd llai o ronynnau yn cael eu gollwng o bibelli gwacáu wrth ddisgwyl am gyfnodau maith. 

“Hefyd, rwy’n falch o fod wedi sicrhau ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i godi arwyddion cyn croesfan sebra newydd Glan Conwy, i sicrhau bod ceir yn cael rhybudd am y newid mewn da bryd. 

“Mae'r rhain yn arwyddion cadarnhaol o gynnydd, ac rwy'n gwerthfawrogi amynedd a chefnogaeth gadarn trigolion Glan Conwy yn fy ngwaith yn deisebu dros welliannau lleol.” 

DIWEDD

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree