Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn sicrhau eglurder am staffio canolfannau diagnosis canser cyflym yn y Gogledd

  • Tweet
Monday, 24 January, 2022
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

A hithau’n ymgyrchydd penderfynol ac ymroddedig sydd wedi bod yn pwyso am fynd i’r afael ag amseroedd aros mewn gwasanaethau canser a diagnostig, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi sicrhau eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sefydlu canolfannau diagnosis cyflym yn y Gogledd.

Mewn ymateb i Gwestiwn Ysgrifenedig, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai tair canolfan ddiagnostig gyflym yn cael eu hagor yn y rhanbarth yn gynnar yn 2022, a bod y Bwrdd Iechyd yn recriwtio’r staff gofynnol ar hyn o bryd. Meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mater i’r Bwrdd Iechyd yw pennu ble a sut i leoli canolfannau er mwyn diwallu anghenion ei boblogaeth leol. Mae’n rhaid i’r Bwrdd Iechyd ystyried hefyd sut i wneud hyn law yn llaw â darparu llwybrau safonol o ofal canser ac mae’n rhaid parhau i fodloni’r galw am wasanaethau nad ydynt yn wasanaethau canser gyda’r adnoddau sydd ar gael.

Mae tystiolaeth bod canolfannau diagnosis cyflym yn cael effaith arwyddocaol ar amseroedd aros diagnostig, gyda’r rhaglen beilot yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cwtogi amseroedd aros hyd at 92% yn ei flwyddyn gyntaf.

Wrth sôn am yr eglurder, dywedodd Janet:

“Rwyf wedi bod yn galw ers sawl blwyddyn am rwydwaith o ganolfannau diagnostig cyflyn i gyflynu canlyniadau profion ac atal apwyntiadau dilynol mewn ysbytai. Bydd y canolfannau hyn yn cynyddu capasiti ein Bwrdd Iechyd, gan helpu i achub bywydau drwy sicrhau ein bod yn cau’r bwlch rhwng diagnosis a chael triniaeth briodol.

“Rydym yn gwybod bod diagnosis a thriniaeth gynnar y allweddol i frwydro yn erbyn y clefydau hyn. Fodd bynnag, datgelodd ymchwil ddiweddar gan Gymorth Canser Macmillan bod un o bob pump a gafodd ddiagnosis canser yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf heb gael cymorth nyrsio canser arbenigol yn ystod eu diagnosis neu driniaeth.

“Er fy mod yn falch o dderbyn y cadarnhad hwn am ymgyrch recriwtio, mae’n rhaid i unrhyw ganolfan diagnosis cyflym sicrhau hefyd bod y staff iawn ganddynt i gefnogi pobl o’r adeg maent yn cael diagnosis gydag unrhyw bryderon a all fod ganddynt. Gyda hyn mewn golwg, byddaf yn dal ati o ofyn am fwy o fanylion am yr amserlen a chynlluniau cefnogaeth.”

Mewn newyddion cysylltiedig, yr wythnos diwethaf, cafodd yr Aelod gyfarfod â Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno fel rhan o’i hymgyrch barhaus i gynnal ac adfer y gwasanaethau a gynigir yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno. Yn ystod y cyfarfod, cytunwyd y dylai’r Bwrdd Iechyd ystyried cynnal gwaith cynllunio strategol hirdymor ychwanegol i ddeall pa staff fydd eu hangen arnynt ymhen blwyddyn.

DIWEDD 

Llun: Janet Finch-Saunders AS 

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree