Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn sicrhau cynnydd cadarnhaol ynghylch pryderon am groesfan Llwyn Brith

  • Tweet
Tuesday, 1 February, 2022
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Wrth barhau i fwrw'r maen i'r wal drwy ohebu â Llywodraeth Cymru, mae Janet Finch-Saunders AS Aberconwy wedi croesawu'r newydd y bydd asesiad ynghylch croesfan i gerddwyr yn cael ei gynnal ar gyfer Llwyn Brith, Llanrwst.

Bydd camau pellach yn cael eu cymryd, yn ôl llythyr gan y Dirprwy Weinidog unwaith y bydd fersiwn derfynol wedi dod i law. O ran pryderon eraill am ddiogelwch y ffordd dan sylw, ysgrifennodd Lee Waters AS:

“Mewn perthynas ag asesu'r llwybr cerdded i'r ysgol a gofyn am derfyn cyflymder rhan-amser o 20mya, mae'r asesiad hwnnw wedi dod i'r casgliad ac yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at derfyn cyflymder diofyn cenedlaethol o 20 mya a ddaw i rym ledled Cymru yn 2023. Mae hyn yn golygu y byddai pob ffordd gyfyngedig (rhai â goleuadau stryd) yng Nghymru sy'n destun terfyn cyflymder ffordd 30mya ar hyn o bryd, yn dod yn ffyrdd 20mya yn ddiofyn. 

Wrth sôn am y llythyr a dderbyniwyd, dywedodd Janet: 

“Ar ôl gweithio ar y mater difrifol hwn o ddiogelwch ar y ffyrdd drwy'r Senedd flaenorol a thrwodd i'r tymor newydd hwn, rwy'n falch fy mod wedi cael llythyr cynnydd cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru sy'n cadarnhau bod yr asesiad croesfan i gerddwyr wedi'i gynnal ac yn aros am ddrafft terfynol.

“Er y siom bod cymaint o amser wedi pasio ers tynnu sylw at y pryder hwn yn gyntaf, rwy'n derbyn i’r asesiad orfod cael ei oedi er mwyn sicrhau nad oedd llif teithwyr lleol yn cael ei effeithio gan y pandemig. Mae'n hanfodol bod unrhyw gynnydd ar y mater hwn yn cydnabod yr angen am newid, fel rwy’n siŵr y bydd y data yn ei ddangos. 

“Mae'r broblem hon yn dal i boeni trigolion o boptu'r A470, sy'n wynebu'r her o groesi'r briffordd yn ddiogel bob dydd. Gan weithio law yn llaw â'r gymuned leol, rwyf wedi ymrwymo i wthio Llywodraeth Cymru i ddarparu ateb synhwyrol a hirdymor sydd o fudd i ddefnyddwyr y ffordd a cherddwyr, gan amddiffyn ein plant a'n pobl sy'n agored i niwed.” 

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Gweler copi o'r llythyr atodedig.

Llun: Janet Finch-Saunders AS 

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree