Heddiw (20 Tachwedd) mae Janet Finch-Saunders AS, Aelod Aberconwy o Senedd Cymru wedi rhybuddio bod pandemig y Coronafeirws yn gwthio defnyddwyr Cymru oddi wrth y stryd fawr ac i farchnadoedd ar-lein, gan gynyddu’r risg y bydd pobl yn prynu anrhegion trydanol peryglus y Nadolig hwn.
Cynhelir Wythnos Diogelwch Trydanol Cymru rhwng 30 Tachwedd a 6 Rhagfyr, ac yn ôl gwaith ymchwil gan Electrical Safety First,yr elusen diogelwch defnyddwyr, mae tri o bob pump o bobl yng Nghymru yn bwriadu siopa Nadolig ar-lein. Mae’r Elusen yn rhybuddio siopwyr Cymru am y risgiau o brynu nwyddau trydanol o farchnadoedd ar-lein y Nadolig hwn. Mae’r arolwg yn awgrymu bod bron i 3 o bob 5 (57%) o drigolion Cymru yn siopa mewn marchnadoedd ar-lein dros y Nadolig eleni.
Mae mwyafrif (58%) o ymatebwyr Cymru sy’n bwriadu siopa o farchnadoedd ar-lein yn dweud eu bod yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn credu bod y gwefannau hyn yn ffordd fwy diogel o siopa na mynd i’r Stryd Fawr yn ystod pandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae Electrical Safety First yn bryderus bod defnyddwyr yn cyfnewid un risg am un arall, gan fod sawl archwiliad gan yr Elusen wedi amlygu bod cynhyrchion trydanol peryglus ar werth drwy drydydd partïon ar y gwefannau hyn. Mae’r Elusen yn pwyso ar ddefnyddwyr i leihau eu siawns o brynu eitemau trydanol peryglus drwy lynu at siopau a gwefannau gwneuthurwyr a manwerthwyr hysbys.
Wrth gyfeirio ar ganfyddiadau’r arolwg newydd, meddai Janet:
“Mae pryderon am y pandemig Coronafeirws yng Nghymru wedi golygu bod llawer o bobl yn prynu anrhegion trydanol ar-lein y Nadolig hwn, yn hytrach na phrynu ar y Stryd Fawr a chan frandiau lleol y gellir ymddiried ynddyn nhw. Yn ôl arolwg newydd, mae chwarter o siopwyr Cymru yn bwriadu prynu anrhegion trydanol y Nadolig hwn, felly mae’n bwysig bod pob un ohonom ni’n cymryd camau i wneud yn siŵr ein bod yn gwybod gan bwy rydyn ni’n prynu.
“Os oes gennych chi dystiolaeth bod eich eitem yn ffug, dylech bob amser gysylltu â’r cyflenwr ar unwaith i ofyn am eglurhad. Os oes camgymeriad wedi’i wneud, mae hyn yn gyfle i’r cyflenwr egluro’r sefyllfa. Mae gennych chi’r hawl gyfreithiol i ad-daliad os ydych chi wedi prynu nwyddau ffug. Byddwn yn argymell hefyd diogelu eich hun drwy dalu gyda PayPal neu eich cerdyn credyd, gan ei bod yn fwy tebygol bod yna yswiriant ar gyfer yr hyn rydych chi yn ei brynu.”
Meddai Robert Jervis-Gibbons, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Electrical Safety First:
Mae’n gwbl ddealladwy bod llawer iawn o ddefnyddwyr yn bwriadu gwneud eu siopa Nadolig ar-lein er mwyn osgoi’r stryd fawr eleni. Fodd bynnag, o ran nwyddau trydanol, mae’n bwysig iawn defnyddio siopau neu wefannau gwneuthurwyr a manwerthwyr sydd i’w cael ar y stryd fawr, yn hytrach na phrynu gan werthwyr trydydd parti mewn marchnadoedd ar-lein.
“Mae ein harchwiliadau wedi darganfod eitemau eithriadol o beryglus ar werth ar y platfformau hyn ac mae cynhyrchion ffug neu o safon isel yn anodd eu canfod os nad ydych chi’n arbenigwr. Byddai ein deddfwriaeth arfaethedig - y gallwch ei chefnogi drwy lofnodi deiseb ar wefan Electrical Safety-First - yn gorfodi’r marchnadoedd hyn i fod yn gyfrifol am y nwyddau a werthir ar eu safleoedd. Ond tan y bydd hyn wedi’i basio, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus.”
DIWEDD
Nodyn i Olygyddion:
- Am ragor o wybodaeth am waith Electrical Safety First ar farchnadoedd ar-lein yn cynnwys canfyddiadau llawn yr arolwg, ewch i https://www.electricalsafetyfirst.org.uk/what-we-do/consumer-campaigns/…
Ffotograff: Call Me Fred ar Unsplash