Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn mynegi pryder am sylwadau’r Gweinidog Iechyd ynghylch ciwio am frechiad

  • Tweet
Wednesday, 15 December, 2021
  • Local News

Mae Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - wedi mynegi pryderon yn dilyn sylwadau gan Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ynghylch ciwio i gael brechiad atgyfnerthu yn erbyn y Coronafeirws pan ddywedodd nad oeddent am weld pobl yn rhynnu y tu allan yng nghanol gaeaf, fel sy’n digwydd yn Lloegr.

Mae Mrs Finch-Saunders wedi beirniadu’r datganiad fel un “allan ohoni” ar ôl codi’r mater o giwio hir mewn tywydd gaeafol yn gyson gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yr wythnos hon, derbyniwyd ateb ffurfiol gan y Bwrdd Iechyd a oedd yn ymrwymo i adolygu mesurau cadw pellter cymdeithasol yn ystod cyfnodau o dywydd gwael.  

Wrth ymateb i’r datganiad, dywedodd Janet:

“Mae’r sylwadau hyn gymaint allan ohoni gan y Gweinidog Iechyd gan eu bod yn methu â chydnabod y sefyllfa wirioneddol ar lawr gwlad, gyda llawer iawn o gleifion mewn oed ac agored i niwed yn aros yn amyneddgar mwn tywydd oer a gwlyb yn yr awyr agored i dderbyn eu brechiad atgyfnerthu.

“Gyda thywydd gaeafol anodd a stormus wedi taro’r etholaeth yn ddiweddar, a’r tymheredd i fod i ostwng ymhellach, rwyf wedi derbyn mwy a mwy o ohebiaeth gan etholwyr yn mynegi eu pryderon am giwiau hir y tu allan i ganolfannau brechu.

“Ar ôl ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd am y mater hwn, rwy’n croesawu cadarnhad y bydd y staff yn barod i leihau’r pellter cymdeithasol a weithredir yn y lleoliad o’r 2 fetr arferol i 1.5 metr mewn tywydd gwael. Bydd hyn yn sicrhau y bydd mwy o bobl yn gallu bod o dan do wrth aros am eu brechiad.

“Gyda’r ymgyrch frechu yn debygol o gyflymu, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n rhoi adnoddau angenrheidiol i fyrddau iechyd allu derbyn a gweld llawer iawn o drigolion waeth beth fo’r tywydd. Ar hyn o bryd, rydym yn gweld gweinyddiaeth sy’n gwbl benderfynol o osgoi bai a chyfrifoldeb yn lle hynny.” 

DIWEDD

Llun: Daniel Schludi/Unsplash

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree