Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn galw cyfarfod cymunedol i drafod cau pont Dolgarrog

  • Tweet
Friday, 5 March, 2021
  • Local News
Llun: Janet Finch-Saunders AS 

Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am gau pont Dolgarrog, gan gyhoeddi y bydd yn cynnal cyfarfod cymunedol rhithwir yn ddiweddarach y mis hwn i gadarnhau’r diweddaraf ar y pryderon sydd wedi’u codi.  

Ar hyn o bryd, y bont sy'n darparu'r unig lwybr mynediad i Orsaf Reilffordd Dolgarrog o bentref Dolgarrog. Cynhelir cyfarfod rhithwir Microsoft Teams rhwng 14:00 a 15:00 ar 19 Mawrth 2021. Gall preswylwyr dderbyn y wybodaeth ymuno angenrheidiol drwy e-bostio [email protected]. 

Wrth gadarnhau'r cyfarfod, dywedodd Janet:  

“Ers y cyhoeddiad pryderus bod y groesfan yn cael ei chau'n barhaol, rydw i 'n falch fy mod wedi cysylltu â nifer o randdeiliaid perthnasol. Yn dilyn ein gohebiaeth, mae Dŵr Cymru wedi cytuno i fynychu cyfarfod rhithwir o randdeiliaid perthnasol.  

“Yn y cyfarfod hwn, byddaf yn mynegi'n glir y pryderon lleol bod cau'r bont hon yn torri'r cysylltiad rhwng y gymuned â'i gorsaf, mae'n cael effaith negyddol ar fynediad i Barc Cenedlaethol Eryri, ac mae’n debygol o arwain at gynnydd yn y defnydd o gerbydau preifat a fydd eisiau cael mynediad i Orllewin Dyffryn Conwy. Mae hyn i gyd yn rhwystredig o ystyried y potensial gwych sydd gan Orsaf Reilffordd Dolgarrog. 

“Er y bydd y cyfarfod rhanddeiliaid hwn yn ddigwyddiad caeedig, fy nymuniad yw bod y gymuned leol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad y cyfarfod cyn gynted â phosibl. Credaf yn  gryf fod tryloywder yn parhau i fod yn allweddol i unrhyw gydweithrediad cymunedol wrth inni fwrw ymlaen a thynnu sylw at y pryder hwn. 

“Felly, yn dilyn y sesiwn rhanddeiliaid, rydw i'n falch o gadarnhau y byddaf yn cynnal cyfarfod cymunedol rhithwir. Rydw i wir yn annog trigolion lleol i fynychu'r cyfarfod hwn fel y gellir cofrestru'n ffurfiol a gweithredu'r holl bryderon sydd ganddyn nhw."

Diwedd 

Nodiadau i Olygyddion: 

  • Mae pont Dolgarrog yn cludo dau brif gyflenwad dŵr dros Afon Conwy. Ym 1982, cytunodd Dŵr Cymru â Chyngor Conwy y byddai'n caniatáu i'r bont gael ei defnyddio fel rhodfa gan y cyhoedd. Fodd bynnag, nid yw'n llwybr troed dynodedig nac yn hawl tramwy cyhoeddus.
  • I ddod o hyd i sylwadau blaenorol Janet ar gau'r bont, cliciwch yma. 

Llun: Janet Finch-Saunders AS 

You may also be interested in

Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Wednesday, 28 January, 2026
Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree