Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn galw am wrthod cais i gau llwybr troed Deganwy

  • Tweet
Monday, 5 July, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Yn dilyn pryder cynyddol am orchymyn dileu gan Network Rail a brwydr hir gan ymgyrchwyr lleol i ailagor y llwybr, mae’r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ofyn i’r awdurdod wrthod y cais i gau’r llwybr. Yn 2019, penderfynodd Arolygiaeth Gynllunio Cymru fod hawl tramwy cyhoeddus o hyd wrth y groesfan reilffordd yn Warren Drive/Ffordd Glan y Môr. Wrth sôn am y gorchymyn dileu newydd, dywedodd Janet:

“Fel yr amlinellais yn fy llythyr at yr awdurdod lleol, mae’r cais hwn gan Network Rail yn ergyd sylweddol i’r gymuned wrth i ni weithio’n ddiflino i weld y map swyddogol ar gyfer yr ardal yn cael ei ddiwygio i gynnwys llwybr troed cyhoeddus mewn man lle profwyd bod hawl tramwy cyhoeddus ar y groesfan, a bod yr hawl hwnnw’n parhau.

“Bydd trigolion yn cofio ein brwydr galed a chydweithredol i ailagor y llwybr hwn, ar ôl i mi ddadlau o blaid y llwybr yn yr ymchwiliad. Mae’n parhau’n enghraifft wych o ddemocratiaeth ar waith nad wyf am ei gweld yn cael ei gwastraffu heb wneud popeth posibl i sicrhau bod y groesfan yn ddiogel.

“Mae’r groesfan hon wedi cael ei defnyddio ers canrifoedd. Er fy mod yn gwerthfawrogi dyletswyddau statudol Network Rail i gynnal gweithrediad y rheilffordd yn ddiogel ac effeithlon, ac yn rhannu eu hawydd i ddiogelu’r cyhoedd, mae’n rhaid i mi nodi nad wyf yn ymwybodol o un farwolaeth pan oedd y groesfan hon ar agor.

“Yn hytrach na gorfodi cau’r groesfan yn y tymor hir, rwy’n rhannu’r gred leol y dylai Network Rail ddod o hyd i ateb arloesol yn lle hynny, fel pont neu danlwybr. Gan fod newid hinsawdd yn parhau i fod yn un o heriau mwyaf ein hoes, ni ddylem fod yn cau’r llwybrau hynny sy’n hwyluso teithio llesol lleol. Dylai’r sector rheilffyrdd gofio bod y llwybr yno ymhell cyn trenau.”

DIWEDD

Llun: Janet Finch-Saunders AS/MS wrth groesfan Deganwy.

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree