Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn galw am weithredu i daclo'r argyfwng mewn gwasanaethau deintyddol

  • Tweet
Wednesday, 2 February, 2022
  • Local News
Janet

Wrth fynnu datganiad brys gan Lywodraeth Cymru, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi tanlinellu'r pwysau sy'n wynebu practisau meddygon teulu lleol oherwydd bod trigolion yn cael trafferth cael gafael ar ofal deintyddol y GIG. Cafwyd galwadau tebyg i weithredu gan aelodau Llafur Cymru, Alun Davies AS a Huw Irranca-Davies AS, hefyd.

Yn ystod trafodaethau diweddar gyda meddygon teulu, amlinellwyd sut mae rhai meddygfeydd yn mynd ati i hyfforddi eu derbynyddion fel swyddogion llywio gofal a fydd yn eu helpu i ailgyfeirio cleifion i wasanaethau mwy addas lle bo'r angen, fel optegwyr a deintyddion. Erbyn hyn, mae ofnau y gallai'r broses hon gael ei thanseilio oherwydd rhestrau aros hir a’r ffaith nad yw practisau’n derbyn cleifion newydd.

Er bod nifer y deintyddion yn rhanbarth y Gogledd wedi cynyddu 1% y llynedd, mae nifer cyfwerth ag un o bob 20 wedi gadael y proffesiwn ers 2019.  Ledled Cymru gyfan, roedd 83 yn llai o ddeintyddion yn gweithio i fyrddau iechyd yn 2021 nag yn 2020. 

Wrth sôn am y broblem, dywedodd Janet: 

“Rwy'n hynod siomedig gyda'r ffordd mae Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur wedi ymddwyn tuag at ddeintyddion a'u cleifion yn ystod pandemig y coronafeirws. Yn aml, roedd eu hagwedd at y gwasanaeth iechyd hanfodol hwn yn teimlo fel ôl-ystyriaeth.

“Er gwaethaf cyfeiriad amwys Llywodraeth Cymru at hwb ariannol sylweddol i ddeintyddiaeth Cymru yn ystod y sesiwn lawn ddoe, mae fy mewnflwch e-bost yn profi bod diffyg mynediad o hyd i blant, oedolion a phensiynwyr, gyda llawer yn cysylltu â'm swyddfa heb wybod lle i droi.

“Yn ystod trafodaethau diweddar gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac ymweliadau â'n meddygfeydd, nodwyd yn glir eu bod nhw dan straen aruthrol wrth i bractisau dderbyn mwy a mwy o geisiadau am apwyntiad gan bobl sydd mewn poen difrifol. Mae'n amlwg bod angen eglurder o ran lle mae'r arian hwn wedi'i wario a pha gamau fydd yn cael eu cymryd ar unwaith i leddfu'r pwysau.

“Er bod yr Uned Addysgu Deintyddol ym Mangor yn gam i'r cyfeiriad cywir, ac yn un a fydd, gobeithio, yn helpu i gynyddu nifer y deintyddion sy'n gweithio'n lleol, rwy'n dal i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu'r sector hwn yn rhy hir o lawer. Rhaid inni roi sylw i rybuddion y gallai'r ôl-groniad presennol arwain at don o broblemau deintyddol yn y dyfodol."

Gallwch gofnodi'ch profiad o'r ddarpariaeth ddeintyddol trwy fynd i [www.janetfinchsaunders.org.uk/healthsurvey]www.janetfinchsaunders.org.u…. 

DIWEDD 

Llun: gan Atikah Akhtar ar Unsplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree